Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, roedd rhan o'ch datganiad ar y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot. A allwch ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y buddsoddiad hwnnw ac a fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y flwyddyn ariannol hon?