Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 16 Mai 2018.
Arweinydd y tŷ, mae adroddiad cynnydd diweddar Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol yn nodi bod Merthyr Tudful yn ardal heb lawer o weithgarwch cynhwysiant digidol yn digwydd ynddi. Arweiniodd hyn at ffurfio partneriaeth Get Merthyr Tydfil Online. O gofio bod mynegai datblygu digidol Barclays 2017 wedi honni bod sgôr gweithwyr yng Nghymru ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol, a bod cyflogwyr yn barod i dalu premiwm i weithwyr â sgiliau prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol, a wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar waith y bartneriaeth ar wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a'r cymoedd cyfagos, os gwelwch yn dda?