Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 16 Mai 2018.
Oes, yn bendant. Mae angen sgiliau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws y sbectrwm. Felly, rydym eisiau cynhyrchu graddedigion y dyfodol, ond rydym hefyd angen y technegwyr ac ati. Felly, mae gennym nifer o gynlluniau cyflogadwyedd. Nid ydynt yn rhan o fy mhortffolio, ond mae gennym nifer fawr o gynlluniau cyflogadwyedd a rhaglenni sgiliau hyblyg, sydd ar gael i gwmnïau sy'n bodoli eisoes i wneud yn union hynny—uwchsgilio eu gweithlu cyfredol. Hefyd, mae gennym gynlluniau cyflogadwyedd ar gyfer pobl nad ydynt eto yn y farchnad i gael eu sgiliau i mewn iddi. Felly, caiff y ddau beth hynny eu cynnwys. Mae'r academi feddalwedd yn edrych ar gyflwyno allgymorth ar gyfer pobl a allai fod eisiau gwneud sgiliau lefel 3 yn ogystal—felly cymwysterau sy'n gyfwerth â lefel A a'r diploma cenedlaethol uwch, gyda llwybr i gamu ymlaen at addysg uwch, neu lwybr i mewn i gyflogaeth yn wir ar y pwynt hwnnw. Felly, rydym yn ystyried hynny. Yn bendant, mae angen pawb ar bob lefel o'r ystod o alluoedd.