Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 16 Mai 2018.
Ie, yn hollol. Rydym yn cynnal nifer o ymgyrchoedd, ac rwyf wedi'u crybwyll eisoes, ond rwy'n fwy na pharod i dynnu sylw atynt eto. Rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, a'i bwriad yw herio'r math o stereoteipio ar sail rhywedd rydych yn ei ddisgrifio, ac i dynnu sylw at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau fel achos a chanlyniad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lansiais yng Ngholeg Gŵyr ym mis Ionawr, a gwneir hynny'n benodol i sicrhau nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt adlewyrchu math penodol o wrywdod ac y gallant roi gwybod os ydynt yn wynebu amgylchiadau o'r fath.
Roeddwn yn falch iawn o lansio ymgyrch Paid Cadw'n Dawel yn y Pierhead ym mis Ebrill. Roedd nifer fawr ohonoch yn bresennol yn ystod y lansiad hwnnw ac rydym wedi darparu nifer o gyfleoedd i dynnu lluniau yma, ac ati. Byddem yn hapus iawn i helpu unrhyw Aelodau Cynulliad sydd eisiau rhoi cyhoeddusrwydd pellach i'r ymgyrch mewn unrhyw ardal o Gymru i wneud hynny, oherwydd holl bwrpas yr ymgyrch yw galluogi pobl i adnabod eu hunain ac i roi gwybod am unrhyw beth y maent yn ei weld. Ond rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer dynion a menywod sy'n weithredol ym mhob rhan o Gymru. Ac rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r prosiect Dyn, ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig, ac sydd hefyd yn gweithredu'r llinellau cymorth hynny ledled Cymru.