Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 16 Mai 2018.
Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod yr adolygiad o ddigwyddiadau ar yr ystâd, awgrymodd rhai Aelodau Cynulliad y dylid pennu terfyn ar nifer y digwyddiadau. Byddai terfyn yn eu helpu i reoli eu hamser yn well, yn annog defnydd mwy amrywiol o'r ystâd, ac yn osgoi archebu a threfnu mewn ffordd ddiwahân. Yn ôl y ffordd y mae Aelodau wedi defnyddio'r ystâd yn y gorffennol, dim ond pedwar Aelod Cynulliad byddai terfyn o 10 digwyddiad yn effeithio arnyn nhw. Nid yw'n effeithio ar drefniadau a wnaed eisoes, ac nid yw, hefyd, yn effeithio ar grwpiau trawsbleidiol ychwaith.