Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 16 Mai 2018.
Wel, mae'r gwaith hwn wedi bod ar y gweill ers misoedd lawer drwy ymgysylltiad uniongyrchol â'r tasglu gweinidogol a sefydlais i edrych ar ofal sylfaenol, ac nid materion recriwtio yn unig, ond amrywiaeth ehangach o faterion, ac edrychaf ymlaen at glywed Cymdeithas Feddygol Prydain yn cyflwyno materion ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn ystod y misoedd nesaf. Ac mae yna rywbeth yma ynglŷn â'r amser y mae Gweinidogion yn ei dreulio yn ceisio arwain a darparu atebion, ac rwyf wedi siarad, wrth gwrs, â'r Aelod dros Gwm Cynon ynglŷn â heriau gofal iechyd lleol yn ei hetholaeth ei hun lle mae hi wedi'i hethol, yn ogystal â'r her ehangach ar draws y wlad gyfan, a dylai arwain at feddygon teulu yn gallu aros mewn ymarfer cyffredinol, yn llawn amser, yn rhan-amser, yn y gwasanaeth y tu allan i oriau neu fel locwm. Dylai fod yn gadarnhaol, nid yn unig iddynt hwy, ond yn y pen draw, i bobl Cymru sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol.