Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 16 Mai 2018.
Pan ddaru'r Ysgrifennydd Gwladol ddatgan ei fwriad i ailenwi ail bont yr Hafren, ychydig fisoedd yn ôl, yn bont Tywysog Cymru, nid ydw i'n meddwl ei fod o, chi, na'r teulu brenhinol wedi disgwyl y fath wrthwynebiad. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynnig ac mae pôl piniwn diweddar yn dangos mai dim ond 17 y cant o bobl Cymru sydd yn cefnogi'r syniad. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud yn llwyr eich honiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddywedoch chi fod llawer iawn o bobl Cymru yn cefnogi'r cynlluniau yma. Ond, yn dilyn y datganiad gwreiddiol, pan ofynnwyd am ymateb Llywodraeth Cymru, eich ymateb chi oedd na wnaeth Llywodraeth Cymru godi unrhyw wrthwynebiad, ac rwy'n dyfynnu yn uniongyrchol yn fanna. Ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar yn datgelu llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu'r penderfyniad, a hynny yn frwdfrydig a hyd yn oed yn gofyn am wahoddiad i'r agoriad swyddogol. Mae ymateb y Prif Weinidog yn y llythyr hwn yn bell o ymateb cychwynnol y Llywodraeth. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf: a ydy'r Llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd?