9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:56, 16 Mai 2018

Yn haf 2017 fe gyhoeddwyd adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf—Yr hyn a ddysgwyd' gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wyf i yn aelod ohono fo. Roedd argymhelliad 4 yn yr adroddiad yn dweud hyn:

'Rydym yn argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth. Dylai’r strategaeth gynnwys dangosyddion perfformiad clir i sicrhau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â nodi sail dystiolaeth ehangach i helpu i ategu gwerthusiad effeithiol o wahanol ddulliau o drechu tlodi.'

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yna. Ymateb y pwyllgor oedd hyn, sef dweud ein bod ni

'yn siomedig o hyd bod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod. Teimlwn fod fframwaith a ddarperir gan Strategaeth neu Gynllun Gweithredu yn hollbwysig er mwyn ein galluogi ni i graffu ar p’un a yw polisïau’r Llywodraeth yn gweithio. Mae cynllun gweithredu clir yn allweddol, gyda dangosyddion perfformiad sy’n cael eu dadansoddi yn ôl ardal a rhyw…Byddai cynllun gweithredu hefyd yn helpu i ddangos pa mor dda y mae dull Llywodraeth Cymru wedi’i integreiddio, a sicrhau bod gwaith ar draws portffolios i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.'

Mae'n sgandal nad oes gan y Llywodraeth hon strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi. Mae ystyfnigrwydd y Llywodraeth yn awgrymu un o ddau beth. Un, nad ydy trechu tlodi yn flaenoriaeth, neu nad ydyn nhw wir yn credu bod modd trechu tlodi ac y byddai methu cyrraedd targedau yn arwydd o fethiant, ac felly mae'n well jest peidio â chael targedau a pheidio â chael cynllun. O ran y strategaeth tlodi plant—oes, mae yna un, ond ymddengys fod honno wedi aros yn ei hunfan ers 2015.

Rydw i'n troi rŵan at fater y grant gwisg ysgol, ac mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu diddymu hwn, mewn cyfnod pan mae plant a theuluoedd yn brwydro yn erbyn heriau cynyddol o bob math. Yng Ngwynedd, diolch i bolisi Plaid Cymru, mi fydd y cyngor yn dal i gynnig y grant hollbwysig yma, er gwaetha'r toriad gan y Llywodraeth. Bydd dros 800 o blant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan y cyngor er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n cael trafferth i gwrdd â gofynion ariannol gwisgoedd ysgol.

Rydw i'n falch iawn fod Cyngor Gwynedd wedi medru dal ati i gynnig y grant yma y mae cymaint o deuluoedd yn dibynnu arno fo. Fe gafodd cyfanswm o 842 o bobl ifanc gefnogaeth gan Wynedd yn ystod 2016-17. Bryd hynny, roedden nhw'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd, ond mae honno i ddiflannu. Ond mi fydd y gefnogaeth yn parhau yng Ngwynedd, ac mi fydd 800 o ddisgyblion yn gallu elwa ohoni. Mae'r cyngor yn gwneud hynny oherwydd un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru ydy cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig. Mae gwisgoedd ysgol yn nwyddau hanfodol a ddim yn bethau sydd, efallai, yn neis i'w cael.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi dileu contractau dim oriau i bob gweithiwr, oni bai am y rhai sy'n dymuno eu cael nhw, ac wedi cyflwyno'r cyflog byw i bawb. Dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud pan fydd gennym ni'r awenau a lle rydym ni mewn llywodraeth.

I gloi, mae angen gweithredu—mae angen gweithredu ar frys. Brynhawn yma, mae Plaid Cymru wedi cynnig nifer o ffyrdd ymarferol y gellid eu mabwysiadu. Y peth cyntaf i'w wneud ydy creu cynllun strategol i drechu tlodi. Mi fedrid datganoli elfennau lles er mwyn inni greu system mwy dyngarol; creu pecyn cymorth gofal plant pwrpasol, sy'n cynnwys teuluoedd efo rhieni di-waith, yn ogystal â'r rhai sydd mewn gwaith, er mwyn creu mynediad cyfartal i blant at addysg blynyddoedd cynnar; dileu cytundebau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus a chyflwyno'r cyflog byw.

Dim ond ychydig o syniadau ydy'r rheini y medrid eu gweithredu yn syth petai'r dymuniad yma i wneud hynny. Diolch yn fawr.