Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Pe baem yn meddwl y byddai datganoli'r gwaith o weinyddu neu rywbeth arall o ran hyn yn datrys y broblem yn syml, yna byddai'n rhywbeth gwerth mynd i'r afael ag ef. Ond a gytunwch, mewn gwirionedd, wrth edrych ar hynny, fod angen inni fod yn ofalus iawn o'r canlyniadau anfwriadol a'r costau a fyddai'n dod gyda hynny a'r perygl i'r undod cymdeithasol sy'n diogelu'r gwead mewn gwirionedd?