Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 16 Mai 2018.
Gwnaf mewn munud. Siân, fe wnaethoch chi hefyd grybwyll mater y grant ar gyfer gwisg ysgol. Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi egluro ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell o fis Medi 2018—cynllun a fydd yn fwy hyblyg, yn fwy perthnasol i anghenion dysgwyr dan anfantais. Mae fy swyddogion eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu'r cynllun newydd hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a fydd yn gwneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau sy'n dod. Ac rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.