Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 16 Mai 2018.
A wnewch chi gytuno bod data awdurdodau lleol Dileu Tlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, a ehangai'r diffiniad o dlodi plant er mwyn ystyried ffactorau demograffig ehangach, wedi canfod mewn gwirionedd mai Cymru oedd â'r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU? Daeth y lleihad mewn tlodi plant y cyfeiriais ato o ystadegau'r Llywodraeth, o gronfeydd data'r Llywodraeth, ac nid o rywbeth rwyf wedi'i dynnu o'r aer neu o ddogfen friffio un o'r pleidiau.