Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 22 Mai 2018.
Mae gan gamblo cymhellol y potensial i niweidio nid yn unig gamblwyr unigol ond teulu, ffrindiau a'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd hefyd. Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, gall caledi gynnwys caledi ariannol, trallod seicolegol a chwalu cydberthnasoedd personol. Rydym ni'n cefnogi amrywiaeth o fesurau i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys cymorth, eiriolaeth, gwybodaeth a rheoleiddio priodol.