Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Mai 2018.
Rwy'n cytuno. Mae'n ymddangos bod y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf yn golygu bod y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cymru yn mynd yn amherthnasol. Yr hyn y mae'r pwerau yn ei ddweud mewn gwirionedd yw eu bod nhw'n rhoi'r gallu i ni gyfyngu ar nifer y peiriannau â ffi betio o fwy na £10 o ran trwyddedau safleoedd betio newydd. Wel, os mai dim ond £2 yw uchafswm y fet, yna mae'r pwerau hynny yn academaidd. Felly, credaf ei bod hi'n briodol i ni edrych eto ar yr hyn a fyddai'n briodol i Gymru o ran pwerau ychwanegol dros gamblo.