Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Mai 2018.
Yn dilyn y cwestiynau a'r atebion hyd yn hyn, mae adroddiad o 2016 a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn awgrymu bod y gamblo cymhellol hwnnw yn costio rhwng £40 miliwn a £70 miliwn bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru. Gan fod gamblo a hysbysebu yn bwerau a gadwyd yn ôl, ni allwch chi fod yn rhagweithiol o ran gamblo, y cwbl y gallwch chi ei wneud yw ymateb i'r problemau. Felly, i gael eglurder, ac yn dilyn yr hyn a ddywedasoch wrth Mick Antoniw, pam na wnewch chi fynnu bod San Steffan yn rhoi'r pwerau i ni sydd eu hangen arnom i gadw cost ariannol, ac yn bwysicach cost ddynol, gamblo cymhellol mor isel â phosibl?