Ad-drefnu Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:15, 22 Mai 2018

Rydw i wedi codi gofidiau ynglŷn â phreifateiddio gwasanaethau dialysis gyda chi yn flaenorol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y posibilrwydd o staff yn symud o’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i’r sector breifat i weithio, rhywbeth maen nhw wedi bod yn gwbl glir nad ydyn nhw eisiau i ddigwydd. Nawr, mae yna gwestiynau mawr wedi cael eu codi gan y gweithwyr hyn ynglŷn â’r broses sydd wedi cael ei ymgymryd â hi ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, i’r pwynt eu bod nhw wedi ysgrifennu llythyr at y bwrdd, ac mi ddyfynnaf i'n sydyn o hwnnw: