Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Mai 2018.
Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw. Mae'r staff yn gofyn felly i chi ymchwilio i ddiffygion a'u datrys yn y prosesau a amlygwyd i chi.
Nawr, mae Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, felly a wnewch chi hefyd ymrwymo i ymchwilio i pam mae'r staff mor ddig ynghylch y broses hon, oherwydd roeddech chi'n dweud y geiriau cywir yn eich ateb blaenorol; oni ddylech chi gymryd y camau cywir nawr?