2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 22 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:44, 22 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gresynu at godi ar fy nhraed unwaith yn rhagor, i fynegi pryderon am lywodraethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n gynyddol ddod yn orllewin gwyllt llywodraeth leol Cymru. Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod naw cyn-aelod o staff wedi eu hailgyflogi ar ôl derbyn ymddeoliad cynnar, taliad diswyddo neu dâl dileu swydd. Mae hyn, wrth gwrs, yn groes i bolisi'r cyngor ei hun ac mae'n codi pryderon difrifol fod taliadau wedi eu derbyn gan unigolion a gafodd eu hailgyflogi wedyn gan y cyngor. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud a yw'n ystyried bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol ar yr achlysuron hyn? Yn wir, a gawn ni ddatganiad ehangach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar lywodraethu yng nghyngor Caerffili yn fwy cyffredinol?