Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n allweddol wrth ennyn llwyddiant mewn unrhyw sefydliad yw arweinyddiaeth dda, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn y system addysg. Dro ar ôl tro, dengys tystiolaeth fod arweinydd da mewn ysgol yn hanfodol i drawsnewid amgylchedd yr ysgol fel y gall ei disgyblion a'i hathrawon ffynnu. Nodwedd gyffredin ymysg yr arweinwyr gorau yw eu bod yn cyfathrebu gweledigaeth glir—gweledigaeth sy'n creu syniad clir o gyfeiriad a chyrchfan. Yng Nghymru, mae ein cenhadaeth genedlaethol yn ddiamwys: rydym yn gweithio gyda'n gilydd i godi safonau, i gau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. I gyflawni'r genhadaeth hon, bydd raid i Gymru feithrin ein harweinwyr. Felly, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o lansio'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, elfen hollbwysig ar gyfer cefnogi a diwygio'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein harweinwyr.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu'r academi. Yn benodol, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen, dan arweiniad medrus iawn Ann Keane, wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy. Maen nhw wedi nodi gweledigaeth ac egwyddorion yr academi ac wedi ymgysylltu gyda'r proffesiwn ar gyfer nodi'r hyn sydd ei angen a pham mae angen hynny. Maen nhw wedi gosod sylfeini cadarn i'r academi ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n awyddus fod pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru yn gweld yr academi, y bydd ei phencadlys yn Abertawe, yn rhan sylfaenol o dirwedd addysg. Bydd hi yno i gefnogi'r holl arweinwyr ar ba gyfnod bynnag yn eu gyrfa—os ydynt yn ystyried cymryd y camau nesaf at arweinyddiaeth ffurfiol neu os ydynt yn arweinwyr profiadol. Bydd yn rhoi hyder iddyn nhw, a chefnogaeth a datblygiad fel eu bod yn gallu cyflawni a gwneud eu gorau glas. Bydd yn cefnogi'r holl arweinwyr ledled Cymru, p'un a ydynt yn gweithio mewn awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, o fewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu, yn wir, mewn sefydliadau addysgol eraill, gan wneud yr arweinyddiaeth yng Nghymru yn flaenllaw yn fyd-eang.
Un ffordd o wneud hyn yw drwy swyddogaeth gymeradwyo. Roedd lansiad yr wythnos diwethaf yn cynnwys galwad ar ddarparwyr i gyflwyno eu darpariaeth, yn y lle cyntaf ar gyfer penaethiaid newydd eu penodi a thros dro, a disgwyliaf y bydd hyd at 300 o unigolion yn y grŵp cyntaf i gael ei dargedu. Bydd y broses gymeradwyo yn un o swyddogaethau allweddol yr academi, gan sicrhau bod y ddarpariaeth sydd ar gael i'n gweithwyr proffesiynol addysg yn hygyrch, o ansawdd uchel ac yn bodloni uchelgeisiau ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol. Yn anad dim, bwriad yr academi fydd sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hategu gan dystiolaeth ryngwladol o'r hyn yw ystyr arweinyddiaeth effeithiol. Ac o ganlyniad, gall pob arweinydd fod yn hyderus y bydd y datblygiad arweinyddiaeth y byddant yn buddsoddi eu hamser ynddi yn cael effaith gadarnhaol ar y canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Efallai mai sefydliad bychan yw'r academi, ond bydd raid i'w dylanwad a'i heffaith fod—ac, yn fy marn i, felly y bydd—ar raddfa fawr. Mae'r academi eisoes yn ymgorffori ein dull gweithredu cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth—mae hyd yn oed y ffordd y crëwyd y sefydliad ynddi wedi bod yn gydweithredol. Bydd meini prawf ansawdd yr academi yn cynnwys amod hefyd i gynnwys arweinwyr yn y gwaith o ddylunio, datblygu a hwyluso'r ddarpariaeth. Er bod cydweithrediad yn nodwedd fawr o'r ddarpariaeth sydd i'w chael ar hyn o bryd yng Nghymru, bydd yn darparu cyfleoedd mwy cyson hefyd ar gyfer arweinwyr i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddatblygu arweinyddiaeth.
Bydd yr academi yn defnyddio ac yn adlewyrchu arferion yr arweinwyr ysbrydoledig, profiadol ac effeithiol sy'n gweithio eisoes yn y system yng Nghymru, yn ogystal ag yn rhyngwladol. A bydd rhaglen swyddogion cyswllt yr academi yn ymgorffori hyn. Mae'n rhaglen ddatblygu a gyd-ddatblygir gan y garfan gyntaf o arweinwyr ysbrydoledig, ac mae'n gyfle gwirioneddol i sicrhau bod y rhaglen yn ymestyn ac yn herio rhai o'n gweithwyr addysgol sy'n perfformio orau. Fe wnes i gyfarfod â'r garfan gyntaf o gymdeithion yn ddiweddar, ac roedd eu brwdfrydedd dros genhadaeth yr academi, a'u swyddogaethau ynddi, yn ysbrydoledig iawn.
Fel sy'n gweddu i sefydliad bychan, arloesol a hyblyg, bydd angen i'r academi fod â phresenoldeb mawr ar-lein. Bydd yn galluogi datblygiad rhith gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ymchwil a thystiolaeth ryngwladol ar gael i bawb. A bydd hyn yn parhau i dyfu wrth i'r academi aeddfedu.
Rwyf wedi dweud cyn hyn bod y dystiolaeth yn eglur fod ansawdd y system addysgol yn dibynnu nid yn unig ar lefelau ei chyfalaf proffesiynol ond hefyd ar lefelau cyfalaf ei harweinyddiaeth. Ac rydym wedi gweithredu ar hyn, a thrwy gydol datblygiad yr academi, bu consensws gwirioneddol ar swyddogaeth hollbwysig arweinyddiaeth, a bu'n gyfle gwerthfawr i ail-ganolbwyntio ein sylw ar arweinyddiaeth yn gydweithredol.
Mae datblygiad yr academi yn gam hanfodol ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau dysgu proffesiynol newydd, diwygiad addysg gychwynnol athrawon, a diwygiad y cwricwlwm, yn ein dull cydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth. Dirprwy Lywydd, rwy'n llawn cyffro am fod yr academi bellach ar waith, i gefnogi ein harweinwyr i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.