Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 22 Mai 2018.
Mae hefyd yn hanfodol, fel y nododd yr OECD ac Estyn, o ran y proffesiwn addysg: mae cael eich rheoli gan arweinydd gwael yn ychwanegu at eich llwyth gwaith fel athro neu athrawes, yn ychwanegu at eich straen fel athro neu athrawes, ac nid yw'n eich helpu i wneud eich gorau. Ond mae arweinyddiaeth dda yn ein hysgolion yn codi pawb.
Un o ddibenion mwyaf bodolaeth yr academi yw dweud wrth bobl sydd yn ystyried arweinyddiaeth, ond ar hyn o bryd nad ydynt yn dymuno cymryd yr ymrwymiad a'r cam hwnnw, oherwydd ei bod yn swydd mor heriol, mae'r academi yno i ddweud, 'Fe wnawn ni eich cefnogi chi. Ni fyddwch ar eich pen eich hun. Mae hwn yn gam yn eich gyrfa y gallwch ei gymryd yn ddiogel gan wybod a bod yn hyderus fod yna strwythur a sefydliad a fydd yn rhoi'r cymorth ichi fod y gorau y gallwch chi fod, a gwneud eich taith tuag at arweinyddiaeth yn llwyddiant. Byddwn yn eich cefnogi i wneud hynny.'
Felly, rydych chi'n hollol iawn: mae amrywiaeth o bethau y mae angen inni eu gwneud i wneud arweinyddiaeth yn fwy deniadol. Byddwch yn ymwybodol o'n datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, am ffordd fwy soffistigedig o reoli perfformiad mewn ysgolion, sefydlu'r academi arweinyddiaeth, safonau arweinyddiaeth newydd—y cyfan gyda'i gilydd, mae'n ymwneud â gwneud arweinyddiaeth yn rhywbeth deniadol.
Rydych yn siarad am yr CPCP. Fel rhywun a fu'n ddigon ffôl i gytuno i lofnodi'n bersonol yr holl dystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus yr CPCP eleni, cefais sioc annifyr ddoe pan roddwyd blwch imi yn cynnwys 140 ohonynt. Pe byddwn wedi gwybod hynny, efallai y byddwn wedi cael fy llofnod wedi'i argraffu arnyn nhw. Ond roeddwn yn falch iawn neithiwr o lofnodi pob un o'r tystysgrifau ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau eu CPCP yn y garfan diwethaf. Felly, nid oes prinder awydd i gymryd rhan yn y rhaglen honno—ddim prinder awydd o gwbl.
Mae fy swyddogion a'r consortia rhanbarthol wedi cydweithio'n galed iawn i gynnig rhaglen CPCP well ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Ond wrth symud ymlaen, rydych yn iawn, Llŷr, mai fy mwriad i yw cadw'r CPCP, ond wrth symud ymlaen ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cyflawni gwaith caffael ar gyfer cyflwyno'r rhaglen eto, a bydd gennyf ragor o wybodaeth ar ôl cwblhau'r broses hon, y byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.
Rydym yn awyddus iawn, fy swyddogion a minnau a'r academi, i sicrhau bod yr CPCP yn adlewyrchu'r safonau arweinyddiaeth newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaglen datblygu a ystyriwyd yn ofalus i gefnogi'r rhai sy'n ymgeisio am brifathrawiaeth hyd yn oed yn well. Felly, bydd yn aros. Eisoes, o flaen yr academi, mae consortia rhanbarthol wedi bod yn cydweithio i sicrhau dull mwy cyson, gan ddibynnu ar eich lleoliad yng Nghymru, a bydd gan yr academi arweinyddiaeth swyddogaeth hanfodol i sicrhau bod yr CPCP, a'r hyn sydd y tu ôl i'r cymhwyster hwnnw, yn addas ac yn gadarn.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, Llŷr, nad wyf i wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnwys gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais wrth ateb Darren, rwy'n ystyried gwneud hon yn academi arweinyddiaeth ar gyfer y rhai sydd â swydd mewn arweinyddiaeth addysgol, ac rwy'n siŵr y bydd trafodaethau ynglŷn ag a fyddai'r gwasanaeth ieuenctid yn dymuno cymryd rhan rywbryd mewn rhaglen o'r fath. Yr hyn yr wyf yn glir amdano yw y gall gwaith ieuenctid da ochr yn ochr ag addysg wirioneddol dda gael effaith wych ar fywydau plant a phobl ifanc.
O ran amser a chyfle, byddwch yn ymwybodol ein bod wrthi'n ailfeddwl am ein cyfleodd dysgu proffesiynol o ben bwygilydd, gyda chynnig addysg broffesiynol cenedlaethol newydd gobeithio—na, nid gobeithio; fe fydd yn barod ym mis Medi, a bydd hynny'n rhoi rhagor o fanylion am y staff sydd ar gael ar bob lefel i gymryd rhan mewn rhaglenni arweinyddiaeth cenedlaethol. Ond yr hyn a welsom gan y swyddogion cyswllt, y bobl a wnaeth gais i fod yn swyddogion cyswllt, unwaith eto nid oes prinder awydd gan bobl i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Roedd mwy o ymgeiswyr i fod yn swyddogion cyswllt nag yr oedd gennym le ar eu cyfer, a chredaf fod hynny'n ein rhoi ar drywydd da iawn mewn gwirionedd ar gyfer sefydlu academi fel rhywbeth sydd yn wirioneddol werth chweil, a phobl yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Mae'r wefan ar ei thraed, er fy mod yn credu y bydd yr Aelodau yn ei chael hi'n anodd i'w Gwglo o'r cyfrifiadur hwn, oherwydd rwyf newydd drïo gwneud hynny ar fy un i ac mae system y Cynulliad wedi'i hatal. Felly, mae'n un o'r gwefannau hynny, un o'r gwefannau rhyfedd hynny, am ryw reswm, nad yw'r hidlyddion yma'n fodlon ichi edrych arni. Ond, pan fyddwch gartref heno yn defnyddio eich cyfrifiaduron eich hunain, os gwelwch yn dda edrychwch arni. Ac, unwaith eto, mae'r presenoldeb ar-lein digidol hwnnw yn rhoi cyfle inni gyrraedd pob rhan o Gymru. Nid wyf yn dymuno i neb fod dan anfantais logistaidd oherwydd eu bod yn arwain ysgol mewn ardal fwy anghysbell o Gymru. Mae'r presenoldeb ar-lein hwnnw a gwneud yn siŵr fod yna adnoddau ar-lein a chymunedau ar-lein, yn caniatáu i bawb gymryd rhan ar sail fwy cyfartal. Ond byddwn yn annog yr Aelodau i edrych, ac efallai y gallai'r Dirprwy Lywydd gael gair gyda'r technegwyr yma ynghylch dadflocio'r wefan honno, Dirprwy Lywydd.