Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Mai 2018.
Yn gyntaf, rwy'n clywed ein rhanddeiliaid, megis y Comisiynydd pobl hŷn, yn dweud wrthym fod ein fframwaith statudol yn gywir ar y cyfan, ond dim ond os byddwn ni'n sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol. Yn ail, rwy'n gweld fy hun fod y strwythurau y gwnaethom ofyn i'n partneriaid eu rhoi ar waith, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau diogelu, yn ymwreiddio yn rhan o'n tirwedd cyflawni yng Nghymru. Ac rwy'n clywed sôn gan bartneriaid am y gwerth y maent yn ei ychwanegu. Ac yn drydydd, rwyf i wedi gweld, ac yn parhau i weld bob dydd, yr ymrwymiad gwirioneddol y mae staff a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector wedi'i gyfrannu at yr agenda hon, ac yn parhau i wneud. P'un a yw'n helpu i lunio'r fframwaith statudol, ein herio i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, neu'n gweithio'n galed i wireddu'r dyheadau yr ydym yn eu rhannu, mae eu hymdrech yn hanfodol ac i'w gweld ymhob man. Edrychaf ymlaen at yr ysgogiad newydd a ddarperir gan yr arolwg seneddol a'n hymateb iddo, y cynllun hirdymor, a fydd yn helpu i barhau ar y llwybr gweddnewid hwn.
Nawr, rydym ni bob amser wedi bod yn glir bod hon yn daith yr ydym ni'n dymuno'i theithio gyda'n rhanddeiliaid, ein staff gofal cymdeithasol a'n dinasyddion, gyda'n gilydd. Rydym ni hefyd wedi bod yn glir iawn na fydd yn llwyddo oni bai bod yr holl randdeiliaid a phob rhan o'r sector yn cydweithredu ac yn cydweithio. Ac nid yw hynny'n berthnasol yn unig i ddarparu gofal a chymorth ymarferol o ansawdd uchel a'r swyddogaethau cynllunio, comisiynu a chyd-drefnu ystafell gefn hanfodol a fydd yn ei gyflawni. Mae hefyd yn berthnasol i sut yr ydym ni'n gwerthfawrogi, yn rheoleiddio ac yn cefnogi ein gweithlu, sut yr ydym ni'n symbylu'r sector i wella ansawdd a gwella fwy fyth wrth gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant, a'r cwestiwn hollbwysig o sut yr ydym ni'n rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y sector yn lle diogel, gofalgar i unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth.
Ein Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy'n ategu'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yw'r mecanwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r gyfres allweddol honno o heriau. Mae'n bleser gen i felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi heddiw am ein cynnydd ar yr agwedd hon ar y daith at weddnewid. Erbyn hyn, rydym ni ar y trydydd cam o weithredu'r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu. Ers cael y Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2016, rydym ni wedi gweld y broses o reoleiddio'r gweithlu yn newid yn llwyr, rydym ni wedi gweld Gofal Cymdeithasol Cymru yn camu i swyddogaeth gwella ansawdd newydd, ac rydym ni'n gweld yn awr y broses rheoleiddio ac arolygu gofal ei hun yn newid i roi pwyslais newydd ar ganlyniadau.
Yng Ngham 1, yn 2016-17, gwnaethom weithio gyda'r sector i lywio'r trefniadau sydd ar waith er mwyn i ddarparwyr gwasanaethau gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan rannu ein syniadau ynghylch pa wybodaeth y dylai darparwyr, drwy eu datganiadau blynyddol, eu rhoi yn y parth cyhoeddus.
Yng Ngham 2, yn 2017-18, gwnaethom weithio'n helaeth â'n rhanddeiliaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu'r safonau gwasanaeth hynny a fydd yn berthnasol i gartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, canolfannau preswyl i deuluoedd ac, yn wir, gwasanaethau cymorth yn y cartref hefyd. Cytunodd y Cynulliad hwn â'r gofynion hynny fis Rhagfyr diwethaf ac rwy'n falch iawn bod Arolygiaeth Gofal Cymru, gan ddechrau fis diwethaf, wrthi'n cofrestru ein prif grwpiau o ddarparwyr yn y sectorau gofal cartref a phreswyl.
Felly, trof yn awr at gam 3, sy'n ymwneud â mabwysiadu, maethu, lleoliadau oedolion a gwasanaethau eiriolaeth. Mae gan y gwasanaethau hyn eu nodweddion a'u cymhlethdodau arbennig eu hunain, a dyna pam y penderfynodd fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Rebecca Evans, ganiatáu proses ddatblygu hirach a gweithredu fesul cam. Rwy'n falch iawn o gydnabod yn y fan hon yr ymrwymiad a'r egni y mae rhanddeiliaid sydd â buddiant yn y sectorau hyn wedi'u hymrwymo wrth weithio gyda ni i helpu i lunio'r gofynion hynny. Dylech weld ymgynghoriadau sy'n ymwneud â maethu, lleoliadau oedolion a gwasanaethau eiriolaeth yn dechrau yn fuan, a bydd ymgynghoriad yn dilyn hyn ar wasanaethau mabwysiadu yn gynnar yn yr hydref. Ac, yn amodol ar gytundeb y Cynulliad hwn, rwy'n gobeithio gweld bod y broses gofrestru ar gael a'r safonau yr ydym wedi ymgynghori arnynt yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaeth yn y meysydd hollbwysig hyn o fis Ebrill 2019.
Ond, nid dyna ddiwedd ein taith. Mae'n parhau ymhellach i'r dyfodol, oherwydd bydd y darpariaethau sefydlogrwydd y farchnad yn y Ddeddf yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn nesaf, i'w gweithredu yn 2020. Bydd y rhain yn ychwanegu haen arall at ein trefniadau ar gyfer deall y farchnad ofal genedlaethol leol ac, yn ei dro, y farchnad ofal genedlaethol, i gefnogi cynllunio da, comisiynu da a rheoli da. Ar yr un pryd, bydd yn ofynnol i weithwyr gofal cartref gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru fel rheoleiddiwr y gweithlu. Caiff hyn ei hwyluso gan ein penderfyniad diweddar i ganiatáu ar gyfer cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr gofal cartref o eleni ymlaen. Yn yr un modd, bydd cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal preswyl yn orfodol yn 2022, yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd o gofrestru gwirfoddol. Mae'r rhain yn rhannau pwysig o'n hagenda gwerthfawrogi'r gweithlu, gan roi'r amddiffyniad, y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i'r gweithwyr hanfodol hyn sydd ar gael trwy gofrestru. Yn sail i'r holl waith hwn fydd y gwersi o'r gwaith adolygu a gwerthuso, ar ffurf gwerthusiad ffurfiol o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a fydd yn destun tendr cyn bo hir, ynghyd â threfniadau addas a chymesur mewn perthynas â Deddf 2016 maes o law.