Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 22 Mai 2018.
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau? Hoffwn ei gwneud hi'n glir nad ydym ni mewn sefyllfa lle nad oes dim yn digwydd yn ein hysgolion. Mae rhai arferion da iawn yn ein hysgolion, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad. Yr her, fel bob amser, mewn addysg Gymraeg—fel yr wyf wedi darganfod dros y ddwy flynedd diwethaf—yw sut ydych chi'n gwneud hynny'n gyson ym mhob un o'n hysgolion. Felly, dydw i ddim eisiau i bobl feddwl nad oes dim o hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n gweld arferion da iawn pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld o ganlyniad i'r newidiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw, yw bod yna gysondeb rhwng lleoliadau, a phwyslais cryf iawn a phwysigrwydd yn cael eu rhoi i'r pwnc hwn, drwy ei wneud yn statudol yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol, nad oedd yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ddwy flynedd yn ôl.
Os caf i, Llywydd, soniodd Siân Gwenllian am fater pwysig iawn nad yw neb arall wedi sôn amdano heddiw, sef y mater ynghylch stereoteipio ar sail rhyw a pha mor ddinistriol y gall hynny fod a'r goblygiadau y gall hynny ei gael i blant weddill eu hoes. Os wnewch chi chwilio yn Google am fanwerthwr teganau adnabyddus ar eich cyfrifiaduron heddiw, fe allwch chi mewn gwirionedd glicio ar ddewis oedran a dewis rhyw. Dewis rhyw—a oes y fath beth â thegan ar gyfer rhyw penodol? Yn ôl y manwerthwr adnabyddus hwn, oes, fe allwch chi ddewis rhyw. Os cliciwch chi ar yr adran 'gwisg ffansi' generig, dyfalwch beth y mae'r merched yn ei wisgo? O, ie, maen nhw i gyd yn dylwyth teg ac yn dywysogesau, ac mae'r bechgyn yn archarwyr, heddweision ac ymladdwyr tân. Os edrychwch chi ar y darlun ar gyfer offer adeiladu, dyfalwch beth welwch chi: bechgyn gyda morthwylion a Lego. Mawredd mawr, byddwn i wedi gobeithio y byddem ni wedi symud ymlaen o hynny erbyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae gallu dweud wrth ein plant yn ein hysgolion, 'Gallwch chi fod yn beth bynnag yr ydych chi eisiau bod' a 'Does dim rhaid i chi chwarae â math penodol o degan'—dyma'r rhesymau pam mae angen inni wneud y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud heddiw. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Plaid Cymru i wneud hynny.