Ad-drefnu Ysgolion ym Mro Morgannwg

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:31, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jane. Fel y dywedais, deallaf fod Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu ailgychwyn ac ailgyhoeddi eu hymgynghoriad oherwydd pryderon a godwyd ynghylch digonolrwydd y cynnig ymgynghori gwreiddiol, yn enwedig diffyg datganiad o'r effaith ar y gymuned digonol. Buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddweud eu barn wrth y cyngor cyn y daw'r ymgynghoriad i ben ar 9 Gorffennaf. Rwy'n disgwyl i bob awdurdod lleol, wrth iddynt ystyried trefniadaeth ysgolion a chau ysgolion, roi sylw dyledus i'r cod trefniadaeth ysgolion a chydymffurfio â'r cod hwnnw. Os oes unrhyw awgrymiadau fod unrhyw awdurdod lleol yn methu cydymffurfio â'r cod, buaswn yn hapus i dderbyn y sylwadau hynny.