Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Mark. Fel y dywedais yn gynharach, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw cynllunio lleoedd ysgol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu, fel y dywedais yn gynharach, i ba raddau y mae eu darpariaeth gyfredol yn bodloni'r nifer o blant y mae'n ofynnol yn statudol iddynt eu haddysgu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag anghenion cwricwlwm modern.