Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 23 Mai 2018.
Fel roeddwn yn ceisio'i ddweud, Lywydd, rydym yn cynnal trafodaethau gyda'r Adran Addysg yn San Steffan ynghylch gweithrediad yr ardoll brentisiaethau. Mae gwir angen sicrhau bod effaith yr ardoll ar y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru cyn lleied â phosibl. Rwy'n deall pam ei bod hi mor rhwystredig fod ysgolion yn y sefyllfa hon, a dyna pam fod angen i'r rhaglen hon gael ei diwygio.