Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai chi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y system addysg yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi, yn y pen draw, yw sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n briodol er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Sut rydych yn monitro'r modd y mae cyllidebau addysgol yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol, ysgolion a chonsortia?