Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 23 Mai 2018.
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cael llawer o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn addysg yng Nghymru. O ran anghenion addysgol arbennig, rwy'n croesawu cefnogaeth Aelod UKIP i'n polisi o drawsnewid yn y maes hwn mewn ysgolion. Os ydym am godi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad, ni allwn wneud hynny heb gefnogi pob un o'n myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a dyna pam rydym wedi dyrannu £20 miliwn er mwyn rhoi'r ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan y Cynulliad hwn yn ddiweddar ar waith.