Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Mai 2018.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle; nid yw'r ardoll brentisiaethau yn rhywbeth y mae gennym reolaeth arni yn Llywodraeth Cymru. Rydym wedi codi ein pryderon, fel Llywodraeth, gyda San Steffan, o ran sut y mae'r ardoll brentisiaethau yn gweithio. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i godi pryderon gyda'r Adran Addysg ar faterion sy'n ymwneud â phrentisiaethau, a deallwn fod swyddogion yn yr Adran Addysg—[Torri ar draws.]