Estyn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:20, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mike. Dros gylch arolygu 2010-17, graddiwyd 175 o ysgolion yn 'rhagorol' naill ai am eu perfformiad neu eu rhagolygon ar gyfer gwella, ac mae 21 y cant o ysgolion wedi cael eu graddio'n 'rhagorol' am o leiaf un dyfarniad. Rwy'n falch o weld cymaint o ragoriaeth yn y system addysg yng Nghymru.