Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus i roi cymaint o rybudd â phosibl i awdurdodau lleol ynglŷn â'r arian sydd ar gael. Weithiau, gyda'r holl ewyllys da yn y byd, gall adnoddau ychwanegol ddod ar gael, a chyda dyhead—fel y dywedais yr hoffwn ei wneud yn gynharach—i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen, weithiau mae arnom angen penderfyniad cyflym a chyflwyno cynigion yn cyflym er mwyn caniatáu inni wario arian nad oeddem wedi disgwyl y byddai ar gael inni yn ystod y flwyddyn. Nid wyf yn barod i adael i berffeithrwydd fod yn elyn i'r da, ac yn yr achos hwn, rwyf am i'r da hwnnw fod yn fwy o arian i'r rheng flaen.