Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 23 Mai 2018.
Mike, rwyf bob amser yn falch iawn o weld rhagoriaeth lle bynnag y bo yn ein system addysg. Rwy'n llongyfarch yr ysgol dan sylw. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yn yr ysgol honno a'u penderfyniad i ddarparu'r cyfleoedd addysgol gorau i'w disgyblion, a buaswn yn fwy na pharod i ymweld â'r ysgol honno. Buaswn hefyd yn falch iawn o'u gweld yn noson wobrwyo flynyddol Estyn, a gynhelir bob blwyddyn bellach, lle mae'r ysgolion sydd yn y categori 'rhagorol' yn dod ynghyd i ddathlu ac i rannu arferion da.