Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Dai. Mae cwricwlwm newydd trawsffurfiol yn ganolog i genhadaeth ein cenedl. Mae rhwydwaith yr ysgolion arloesi yn parhau i weithio gydag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i lunio a datblygu'r cwricwlwm newydd a threfniadau asesu. Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu'r cwricwlwm drafft er mwyn cael adborth gan ysgolion ym mis Ebrill 2019.