Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:35, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y gorffennol, rwyf wedi codi mater twyll mewn perthynas â chardiau yswiriant iechyd Ewropeaidd, ac ar y pryd, dywedasoch nad oeddech yn credu bod hynny'n effeithio ar ein GIG. Fodd bynnag, dangosodd newyddiadurwyr a oedd yn gweithio i bapurau newydd cenedlaethol pa mor hawdd oedd cael cerdyn yn enw rhywun arall. Cafwyd cardiau yn enw Theresa May, Jeremy Hunt a Donald Trump. Yn ôl chwythwr chwiban o Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn Lloegr, mae cynifer ag un o bob pump cais yn dwyllodrus. Gan mai'r cerdyn yn unig sydd ei angen yn aml i gael triniaeth, credir bod y twyll hwn wedi costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i'r GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwn fod yn sicr nad yw'r math hwn o dwyll yn effeithio ar ein GIG yng Nghymru?