Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd ddweud wrthym fod staff ac undebau'n rhan o'r trafodaethau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth, ond ddoe dyfynnais lythyr i'r Prif Weinidog gan staff sy'n dweud,
'mae'n ffordd warthus i gyflogwr cyfrifol ymddwyn mewn proses o'r fath'.
Oherwydd maent yn ddig nad ydynt wedi cael yr ymgysylltiad rydych yn dweud eu bod yn gael. Maent yn dweud
'Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw'.
Nawr, gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe a fyddai'n edrych ar hyn i roi sicrwydd i ni nad yw hynny'n wir, neu o leiaf, os yw'n wir, y bydd yn newid. A allwch chi hefyd roi'r sicrwydd hwnnw i ni, os gwelwch yn dda?