Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 23 Mai 2018.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu Dementia. Rhagwelir y bydd dros 100,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2055. Mae'n hanfodol ein bod fel cenedl yn cynyddu ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o ddementia i chwalu'r stigma a chynorthwyo pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau cyhyd ag y bo modd. Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio. Nid yw'r clefyd yn gwahaniaethu. Nid oes ots pwy ydych chi a gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Mae diagnosis o ddementia yn anodd i'r person sy'n dioddef o'r clefyd, a hefyd i bawb sy'n agos atynt. Ffrindiau Dementia'r Gymdeithas Alzheimer yw'r fenter fwyaf erioed i drawsnewid y ffordd y mae'r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn sôn am ddementia. Ei nod yw helpu pobl i ddeall sut beth fyddai byw gyda dementia, a throi'r ddealltwriaeth honno'n gamau gweithredu.
Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad hwn i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Hyd yma, hanner yn unig ohonom sydd wedi cyflawni'r hyfforddiant. Mae'n bryd i ni gyflawni'r addewid i bob un o'r 60 AC ddod yn ffrindiau dementia. Bydd hwn yn gam mawr tuag at sicrhau mai ni fydd y Senedd gyntaf yn y byd sy'n deall dementia. Mae'r hyfforddiant yn cymryd ychydig dros hanner awr, a buaswn yn annog pawb yma i'w wneud. Ac ni ddylem orffen yn y fan hon. Dylem annog ein swyddfeydd ein hunain a'r rhai yn ein cymunedau i gyflawni'r hyfforddiant. Nid yw bywyd yn dod i ben pan fydd dementia'n dechrau. Gyda chymorth, gall pobl fyw'n dda gyda dementia, felly mae pob gweithred yn cyfrif.