Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd Sefydliad DPJ ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Roedd Daniel wedi bod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl ac yn anffodus, dewisodd roi diwedd ar ei fywyd ar 5 Gorffennaf 2016. Mae Sefydliad DPJ wedi deillio o'r frwydr a wynebodd Daniel i geisio cael cymorth mewn ardal wledig ac yn ei alwedigaeth ynysig fel ffermwr. Mae ei wraig, Emma, wedi ymgyrchu'n ddi-baid i oresgyn y stigma o siarad am faterion iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith dynion. Mae'r anawsterau hyn yn cael eu dwysáu gan fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, ac amharodrwydd nifer o ffermwyr, sy'n gallu trwsio unrhyw beth gyda thipyn o gortyn beindar a rhywfaint o chwys, i chwilio am gymorth pan fyddant yn wynebu salwch meddwl.
Roeddwn yn falch iawn o groesawu Emma Picton-Jones yma i'r Cynulliad yn ddiweddar i rannu ei neges gyda'r rheini sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru. Mae Sefydliad DPJ bellach yn cynnig gwasanaeth cwnsela 24 awr yn Sir Benfro, ac mae gwaith Emma'n agor trafodaeth ar y materion hyn ymysg undebau amaethyddol, cyrff amaethyddol a sefydliadau gwirfoddol. Nawr, yn enw Daniel, mae pobl yn cael cymorth mewn ffordd nad oedd ef yn teimlo y gallai, ac oherwydd gwaith Emma, mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad.