Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy mwriad i y prynhawn yma yw i ddiweddaru Aelodau ar ethol senedd ieuenctid gyntaf Cymru, yn enwedig i ddweud wrth Aelodau y byddwn ni'r wythnos nesaf yn Eisteddfod yr Urdd yn lansio'r ymgyrch gofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad cyntaf senedd ieuenctid Cymru. Bydd y senedd yma yn rhoi llais democrataidd, cenedlaethol i bobl ifanc Cymru ac yn eu galluogi i nodi a chodi ymwybyddiaeth o faterion dadleuol a ddewisir ganddyn nhw i'w trafod.
Bydd y cyfnod cofrestru yn agored i bob person ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 mlwydd oed ac ar agor o ddiwedd mis Mai yr wythnos nesaf tan ganol Tachwedd. Ym mis Medi eleni, bydd pobl ifanc yn gallu rhoi eu hunain ymlaen i sefyll ar gyfer eu hethol. Bydd yr etholiad ar-lein yn cael ei gynnal dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod cyntaf senedd ieuenctid Cymru ym mis Chwefror 2019.
Bydd 60 o aelodau senedd ieuenctid Cymru. Bydd 40 ohonyn nhw yn cael eu hethol drwy system y cyntaf i’r felin drwy system bleidleisio electronig ym mhob un o’r 40 etholaeth etholiadol yng Nghymru. Bydd 20 ohonyn nhw yn cael eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y senedd.
Cyhyd ag y gwyddom, ein senedd ni fydd y senedd ieuenctid gyntaf i ethol ei chynrychiolwyr yn ddemocrataidd yn ei hetholiad cyntaf, ac mae hynny’n dipyn o gyflawniad.
Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod Cynulliad yma heddiw mor awyddus ag yr wyf fi i sicrhau bod pobl ifanc yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau yn ymwybodol o’r cyfleoedd cyffrous a gyflwynir gan y fenter yma. Bydd amrywiaeth eang o adnoddau ar gael i chi er mwyn hwyluso’r gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn eich ardaloedd. Gobeithio y gwnewch chi fwrw ati i hyrwyddo'r senedd o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae llawer o sefydliadau ieuenctid cenedlaethol a phobl ifanc eu hunain wedi helpu i lunio ein cynlluniau ac wedi cytuno i barhau i’n cefnogi ar ein taith. Rwyf am gofnodi fy niolch o waelod calon iddyn nhw am eu hymroddiad parhaus ac am rannu eu harbenigedd a fydd, heb os, yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y cam nesaf o’r prosiect yma.
Nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Drwy ein gwaith gydag ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cynrychiadol ac unigolion allweddol hefyd, rydym am gyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib. Rwy’n hyderus y bydd y rhaglen ymgysylltu y mae ein tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi’i datblygu yn ysbrydoli pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau gwirioneddol neu rwystrau canfyddedig i gymryd rhan yn y broses yma.
Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gweithredu prosiect mor uchelgeisiol yn ddatblygiad sylweddol i ni. Noda Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i’r farn honno gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ar unrhyw fater sy’n effeithio arnynt.
Yng nghyd-destun ein gwaith fel deddfwrfa, mae sefydlu senedd ieuenctid yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory—i bob dinesydd yma yng Nghymru—ac mae gan bob un ohonynt lais yn ein democratiaeth ni yma yng Nghymru.