Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 23 Mai 2018.
A gaf i ddiolch i'r Llywydd am ei datganiad? Yn amlwg, rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y senedd ieuenctid ar fin dod i fodolaeth, ac mi wnawn ni bopeth y gallwn ni, rydw i'n gwybod, i gefnogi yr ymdrechion i hwyluso hynny ac i sicrhau ei fod e'n digwydd, oherwydd mae angen i hwn fod yn arf i rymuso llais pobl ifanc yng Nghymru, fel rydw i'n siŵr y bydd e, ac rydym ni wedi dadlau, nifer ohonom ni, wrth gwrs, bod angen grymuso llais pobl ifainc o fewn democratiaeth.
Rydym ni fel plaid wedi bod yn dadlau am ostwng oed pleidleisio i 16. Rydym ni wedi dadlau hefyd dros gryfhau addysg dinasyddiaeth mewn ysgolion drwy'r cwricwlwm newydd, a bydd hwn yn gyfle arall, rydw i'n meddwl, i helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i bobl ifanc i gyfranogi. Ond nid ydw i'n hapus i stopio yn fanna. Rydw i nid yn unig eisiau gweld y senedd yma yn trafod ac yn datblygu syniadau ac yn cynnig polisïau; rydw i eisiau i ddylanwad y senedd ieuenctid yma gael ei deimlo y tu hwnt i feinciau'r senedd ieuenctid—ar y meinciau fan hyn ac mewn mannau eraill.
Felly, mi ofynnaf i fy nghwestiwn cyntaf: ym mha ffordd rydych chi'n teimlo y bydd yna gyfle i'r senedd ieuenctid fwydo yn ffurfiol i mewn i drafodaethau pwyllgorau a dadleuon yn y Senedd yn fan hyn? A ydym ni eisiau gweld adroddiadau yn cael eu cynhyrchu? A fydd yna gyfle i aelodau'r senedd ieuenctid i annerch y Senedd yma, neu bwyllgorau? Hynny yw, rydw i yn teimlo bod angen ffurfioli'r prosesau yma er mwyn gwir rymuso llais pobl ifanc yn y cyd destun yma.
A'r ail gwestiwn sydd gyda fi ydy: wrth gwrs, rydym ni'n sôn am ystod oedran eang o 11 i 18, ac mae yna beryg, wrth gwrs, y byddai lleisiau, efallai, y garfan hŷn o fewn y grŵp oedran yna yn boddi ychydig ar y lleisiau iau. Felly, pa brosesau bydd yn eu lle i sicrhau tegwch a chydraddoldeb, efallai, os liciwch chi, i'r rhai ifancaf o fewn y sbectrwm oedran yna? Diolch.