Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 23 Mai 2018.
Hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn heddiw. Mae'n gyffrous iawn gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud a graddau'r cynigion a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael llais go iawn yn y senedd ieuenctid newydd hon. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd a'i thîm am eu holl waith, oherwydd gwn fod maint y logisteg yn hyn wedi bod yn heriol iawn, ond hefyd diolch i'r bobl ifanc ar hyd a lled Cymru sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth heddiw. Rwy'n wirioneddol falch fod rhan o'r cynlluniau hyn yn cynnwys cynigion i gael pobl ifanc o'r sefydliadau partner, oherwydd fel y dywedais o'r blaen, er ei bod yn wych fod gennym bobl ifanc hyderus, huawdl yng Nghymru, rhaid inni wneud yn siŵr fod hon yn senedd sy'n llais i'n holl bobl ifanc, gan gynnwys ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig, a byddai'n fraint cael chwarae rhan yn hynny.
Mae gennyf ambell gwestiwn. Y cyntaf yw: i'r bobl ifanc sydd allan yno yn awr yn meddwl, 'Wel, a yw hyn yn rhywbeth y dylwn geisio bod yn rhan ohono?', pa lwybrau sydd ar gael iddynt gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn y cwestiynau y gallai fod angen iddynt eu gofyn er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus yn ei gylch? Rwyf hefyd yn cymryd, fel y mae gennym gyfleoedd ardderchog ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, y bydd pethau'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y bobl ifanc lwyddiannus i'w helpu i wneud y gwaith newydd a phwysig hwn. Buaswn yn ategu sylwadau Llyr am yr angen i edrych ymhellach a thu hwnt i hyn i ymgorffori rôl pobl ifanc cyn belled ag y gallwn yn ein hymarfer yma, a buaswn yn ddiolchgar am eich sicrwydd y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch yn ei gadw dan arolwg.
Ac yn olaf hoffwn ddweud: a gytunwch ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yn awr yn y sefydliad hwn i wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r fenter hon ac i sicrhau bod cynifer o bobl ifanc yn pleidleisio ac yn ystyried sefyll etholiad i'r sefydliad newydd hwn a fydd yn rhoi llais go iawn i bobl ifanc yng Nghymru o'r diwedd?