Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 23 Mai 2018.
Hoffwn i groesawu'r datganiad yma heddiw. Pan ges i fy ethol yn 2007 fel yr Aelod ifancaf ar y pryd—mae Jack a Steffan wedi cymryd y fantell honno oddi wrthyf i—gwnes i gychwyn yn syth i geisio ymgyrchu am senedd ieuenctid go iawn i Gymru, oherwydd roeddwn i'n parchu'r ffaith bod Funky Dragon yn gweithredu, ond roeddwn i eisiau cael rhywbeth ar ochr seneddol y Senedd yma—strwythur ar wahân fel bod y bobl ifanc yn gallu teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol o Lywodraeth yn lle eu bod nhw'n cael yr arian yn syth o Lywodraeth—eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol a sgrwtineiddio'r Llywodraeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl ifanc hyderus, newydd yma yn gallu gwneud hynny.
Nid yw hyn yn gonsérn i fod yn negyddol, ond roeddwn i eisiau gofyn i'r Llywydd y cwestiwn ynglŷn â phleidiau gwleidyddol. Pan oeddwn i'n sefyll fel llywydd undeb Aberystwyth, nid oedd gofyniad ar bobl ifanc roi pa blaid roedden nhw'n ymwneud â hi, ac weithiau roedd pobl yn ennill etholiadau efallai na fyddai wedi ennill etholiadau oherwydd y ffaith nad oedden nhw'n rhoi enw plaid gerbron ar y ticed pleidleisio. Felly, rydw i eisie deall: os bydd yna bobl ifanc sydd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol—sydd yn beth da, rydw i'n credu, gan eu bod nhw yn weithredol—sut ydym ni yn mynd i fod yn ymwybodol o hynny? Sut mae'r bobl ifanc hynny yn mynd i fod yn ymwybodol o'r agenda gwleidyddol, neu ideolegol efallai, sydd tu ôl i resymeg pobl ifanc dros sefyll? Rydw i'n credu bod hynny'n bwysig, fel bod pobl ifanc sydd yn pleidleisio ar-lein yn deall yn iawn beth maen nhw'n pleidleisio amdano.
Ar y mater o bleidleisio ar-lein, byddai diddordeb gyda fi mewn trio ffeindio mas beth rydym ni'n gallu dysgu fel Senedd, yma, er mwyn gallu pleidleisio ar-lein yn y dyfodol. Fe wnes i ddod â dadl fer, flynyddoedd yn ôl nawr, yma yn y Senedd, ynglŷn â cheisio newid yr hyn rydym ni'n ei wneud o ran pleidleisio, a hynny er mwyn ennyn mwy o bobl i bleidleisio ar systemau ar-lein. Wedi'r cyfan, rydym ni'n bancio ar-lein, ac rydym ni'n gwneud lot fawr o bethau ar-lein, ond nid ydym yn gallu pleidleisio ar gyfer y Senedd yma ar-lein.
Y cwestiwn olaf sydd gen i yw: rydw i wedi clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran gweithio'n lleol, ond rydw i eisiau deall mwy ynglŷn â hynny, oherwydd rydw i'n credu beth sy'n really cyffrous am y cyfle yma yw sut y bydd yr aelodau etholedig ifanc yn gallu gweithio gyda grwpiau lleol, a gweithio gyda grwpiau amgylcheddol neu grwpiau ymgyrch lleol, er mwyn ysbrydoli pobl ifanc yn y dyfodol i sefyll fel aelodau o'r senedd ieuenctid, a hefyd weithiau, wedyn, i feddwl am sut y gallen nhw sefyll ar gyfer y Senedd yma. Beth sydd yn bwysig yw bod y Senedd yma yn cael trosolwg oed, trosolwg amrywiol, fel ein bod ni yn gallu bod yn gynrychiolwyr cryf o'r hyn sydd yn digwydd yma yng Nghymru, ac yr un sydd yn bwysig ar gyfer y senedd ieuenctid. Felly, rydw i'n cefnogi beth sydd yn digwydd yma, ac yn gobeithio y bydd yn llwyddiannus.