Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 23 Mai 2018.
Fe ymdriniaf â dyfnder y samplu yn gyntaf. Roedd y deisebydd yn pryderu i ddechrau mai ar ddyfnder o 5 cm yn unig y casglwyd samplau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gywir. Clywodd y pwyllgor fod samplau wedi'u casglu a'u profi yn 2009, 2013 a 2017. Casglwyd rhai o samplau 2009 ar ddyfnder o 4.8m. Mae'r asiantaethau a oedd yn gysylltiedig â'r profion wedi datgan na chanfuwyd crynodiad uwch o ymbelydredd ar ddyfnder, ac fe'u harweiniwyd gan hynny i ddod i'r casgliad nad oedd angen dadansoddiadau pellach o samplau islaw'r wyneb.
Dywedwyd wrthym hefyd mai un agwedd allweddol ar y broses o brofi yw mesur y dos y gallai'r criw carthu neu'r cyhoedd yn ehangach fod yn agored iddo o'r deunydd. Fodd bynnag, yn ystod ein hymchwiliadau daeth yn amlwg na wnaed cyfrif o'r dos ar y samplau yn 2009. Gofynasom i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod hyn yn cael sylw. Derbyniwyd y cais hwn a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ar ddiwedd mis Mawrth fod y cyfrifiad o'r dos wedi'i gynnal yn ôl-weithredol ac wedi dod i'r casgliad nad yw'r deunydd yn achosi unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd.
Serch hynny, mae'r deisebwyr wedi parhau i ofyn cwestiynau am ddigonolrwydd y profion. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o samplau a gymerwyd ar ddyfnder yn 2009—ac rydym yn deall fod pump ohonynt—a'r ffaith nad yw'r ymarfer hwn wedi'i ailadrodd ers hynny.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y gallai profion ychwanegol gynnig sicrwydd pellach i'r cyhoedd. Ysgrifenasom at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr i argymell y dylent ofyn i ddeiliad y drwydded drefnu i samplau pellach gael eu cymryd a'u dadansoddi. Gofynasant i EDF ystyried hyn ar sail wirfoddol, ond gwrthodwyd hyn gan EDF ar y sail fod y dystiolaeth wyddonol eisoes wedi dangos nad yw'r deunydd yn ymbelydrol. Mynegodd Cyfoeth Naturiol Cymru y farn hefyd fod profion pellach yn ddiangen ac nad oedd yn rhywbeth y gallai ei ailystyried drwy'r drwydded neu ei hamodau. Er ein bod yn derbyn mai'r rhesymeg sylfaenol dros wneud profion ychwanegol oedd sicrhau'r cyhoedd yn hytrach na rheidrwydd gwyddonol, mae'r pwyllgor yn gresynu at y ffaith na weithredwyd ar yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at fethodoleg y profion ei hun, ystyriwyd ystod o bryderon ynglŷn â'r profion a gynhaliwyd ac yn benodol, amrediad yr ymbelydredd a brofwyd. Cynhwysir manylion llawn yn ein hadroddiad ac efallai y bydd yr Aelodau yn falch o glywed nad af yn rhy ddwfn i'r wybodaeth dechnegol yn ystod y cyfraniad hwn. Mae'r pryderon yn ymwneud ag ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau'r technegau sbectrometreg pelydr gama a ddefnyddiwyd, a nifer y canlyniadau a gofnodwyd yn flaenorol. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes, roedd y deisebydd wedi cwestiynu a wnaed profion ar gyfer pob radioniwclid, neu ddim ond y rhai a gofnodwyd fel canlyniadau cadarnhaol. Argymhellwyd hefyd—a chafwyd cadarnhad gan CEFAS—na allai'r dechneg a ddefnyddiwyd adnabod ffurfiau alffa a beta ar ymbelydredd yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, cafodd y pwyllgor sicrwydd gan EDF, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS fod y profion a'r dadansoddiadau wedi'u cyflawni yn ôl y safonau rhyngwladol uchaf, a bod y rhain yn geidwadol wrth natur. Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'r profion wedi nodi unrhyw radioniwclidau sy'n allyrru pelydrau gama sy'n bresennol yn y samplau, a bod y canlyniadau wedi'u defnyddio i ganfod darlleniadau o fathau eraill o ymbelydredd na ellir eu nodi'n uniongyrchol drwy ddefnyddio'r dechneg hon.
Codwyd nifer o bryderon a chwestiynau eraill ac darparwyd atebion ar eu cyfer yn ystod ein gwaith yn casglu tystiolaeth. Rhoddir sylw i'r pwyntiau hyn yn ein hadroddiad, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn cael sylw yn ystod gweddill y ddadl hon.
I grynhoi, nid yw ein hystyriaeth o'r ddeiseb hon wedi arwain at gyd-weld rhwng y rhai sy'n bryderus ynghylch y mater hwn a'r sefydliadau a'r asiantaethau sy'n gysylltiedig. Credaf y byddai'n deg dweud nad oedd hynny byth yn debygol o ddigwydd. Wrth gwrs, rydym yn ddibynnol ar y prosesau gwyddonol a'r asiantaethau sy'n eu goruchwylio, yn ogystal â'r rhai sydd â chyfrifoldebau i ddiogelu ein hiechyd ac iechyd yr amgylchedd.
Rwy'n siŵr fod lefel y pryder a'r gwrthwynebiad a amlygwyd gan y ddeiseb yn peri gofid i'r asiantaethau hynny. Rwy'n gobeithio bod y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Deisebau yn ystod ein trafodaethau wedi helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd am y mater hwn. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i gofnodi'r dystiolaeth a gawsom yn gywir, a gobeithio hefyd y bydd pobl sydd â diddordeb yn y mater yn darllen ein hadroddiad ac efallai'n dod o hyd i atebion ynddo. Mae'r holl dystiolaeth a glywsom wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad hefyd i bobl allu ei gweld.
Yn ôl yr hyn a ddeallwn mae'r carthu yn dal i fod i ddigwydd yr haf hwn, ond mae EDF yn aros i'r prosesau hyn gael eu cwblhau yn y Cynulliad. Teimlaf ei bod hi'n iawn inni gydnabod hynny. Fe orffennaf fy sylwadau agoriadol yn y fan honno, ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.