6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:30, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar y ddeiseb hon a'n hadroddiad ar y dystiolaeth a gawsom. Cyflwynwyd y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod gan Tim Deere-Jones, a derbyniwyd 7,171 o lofnodion. Mae'n ymwneud â gwaddodion a gaiff eu carthu o aber afon Hafren ger y safle lle mae safle niwclear Hinkley Point C yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Fel y bydd pob Aelod yn gwybod, mae'r ddeiseb hon wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb a dadl.

O ran y cefndir, mae EDF Energy, drwy is-gwmni, wedi gwneud cais am drwydded forol i waredu'r gwaddodion a gaiff eu carthu mewn man arall yn aber afon Hafren. Gan fod y safle a ddewiswyd—Cardiff Grounds—ar ochr Cymru i Fôr Hafren, cafodd y drwydded ei hystyried a'i chyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n bwysig fy mod yn ymdrin yn syth â rhai o'r heriau o ran amseru y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'u hwynebu wrth inni ystyried y ddeiseb. Ystyriwyd y ddeiseb yn gyntaf yn ystod mis Tachwedd 2017, er bod y drwydded forol, fel y byddaf yn trafod yn nes ymlaen, wedi'i chyhoeddi sawl blwyddyn yn gynharach mewn gwirionedd. Yn ôl ein dealltwriaeth ni hefyd, gellid trefnu i'r gwaith carthu ddigwydd o fewn cyfnod cymharol fyr o amser. O ganlyniad, aethom ati i gasglu tystiolaeth mor gyflym ag y gallem. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda'r deisebydd, EDF Energy, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS—Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu—a gynhaliodd y dadansoddiad o'r gwaddod. Hefyd, derbyniodd ac ystyriodd y pwyllgor gryn dipyn o ohebiaeth ysgrifenedig. Mae hyn i gyd wedi ei ddogfennu yn ein hadroddiad ar y ddeiseb, a gyhoeddwyd ar 14 Mai.

Yn ystod eu tystiolaeth, dywedodd EDF wrthym fod y carthu i ddigwydd yr haf hwn. Felly, er mwyn galluogi i'r ddadl hon ddigwydd mewn modd amserol, dewisodd y pwyllgor lunio adroddiad ar y dystiolaeth a gawsom ar y cyfle cynharaf. Oherwydd hyn, nid ydym wedi cael amser i ddod i gasgliadau na chynhyrchu argymhellion. Gobeithio bod y trosolwg hwn yn darparu'r cyd-destun angenrheidiol i'r Aelodau ac unrhyw un sy'n gwylio'r trafodion heddiw.

Hoffwn ddiolch yn fyr hefyd i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y bobl a'r sefydliadau yr ymgynghorasom â hwy wedi cydnabod ein hamserlenni ac wedi rhoi eu hamser a'u harbenigedd inni o fewn yr amserlenni hynny.

Trof yn awr at y dystiolaeth a gawsom. A gaf fi ddweud ar y cychwyn ein bod, fel pwyllgor, wedi ceisio ymdrin â'r ddeiseb a'r mater ehangach gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol? Hefyd rydym wedi ceisio rhoi blaenoriaeth i'r dystiolaeth wyddonol ac yn gobeithio ein bod wedi osgoi codi bwganod neu gamliwio.

Yn 2014, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwydded forol ar gyfer gwaredu'r gwaddodion. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol yn 2012, ac mae'n werth nodi, ar y pryd hwnnw, fod y broses drwyddedu'n cael ei rheoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Felly, trosglwyddwyd y drwydded gan Lywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses o ystyried y drwydded. Roedd y drwydded a gyhoeddwyd yn cynnwys nifer o amodau, gan gynnwys gofyniad i gasglu samplau o'r deunydd er mwyn eu dadansoddi, a bod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer ei waredu.

Ysgogwyd y ddeiseb gan bryder nad oedd y profion hyn yn ddigon, ac y gallai'r gwaddodion fod yn ymbelydrol o ganlyniad i dros 50 mlynedd o waith ar safleoedd presennol Hinkley. Roedd prif bryderon y deisebwyr yn ymwneud â dwy elfen o'r profion: y dyfnder y casglwyd y samplau ohono a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer dadansoddi.