Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, fy nealltwriaeth i o'r dystiolaeth yw y gallai'r fethodoleg honno a dderbynnir yn rhyngwladol fod wedi canfod yr angen i edrych yn benodol am yr halogion eraill y cyfeirioch chi atynt. Ac rydych wedi dweud hynny ar goedd, a mater i eraill yn awr yw tynnu sylw at dystiolaeth os yw'n bodoli.
A gaf fi ddweud ein bod eisoes wedi clywed bod y data ar gael i'r ymgyrchwyr? Nawr, rwy'n deall bod yna broblem ynghylch astudio'r data hwnnw oherwydd problemau meddalwedd, ond—