Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 23 Mai 2018.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad a'r 7,171 o bobl a lofnododd y ddeiseb ynghylch trwydded forol 12/45/ML. Fel y deisebwyr a miloedd o bobl eraill ledled Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am y cynlluniau gan y cwmni ynni niwclear Ffrengig i ollwng gwaddodion arbelydredig oddi ar ein glannau. Mae arfordir de Cymru yn ecosystem bwysig iawn—mae'n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna. Mae'r arfordir yn fy rhanbarth yn gartref i sawl un o draethau gorau'r byd. Dylem wneud popeth i ddiogelu'r rhan bwysig hon o'n hecoleg. Gwelsom drwyddedau'n cael eu rhoi i garthu tywod a ddinistriodd ein traethau, ac fe wnaethom ystyried y syniad o adeiladu fferm wynt enfawr ar y môr a oedd yn bygwth peryglu haid o lamidyddion, ac yn awr, maent yn fodlon caniatáu i 300,000 tunnell o waddodion o Loegr a allai fod yn ymbelydrol gael ei ollwng ychydig oddi ar ein harfordir.
Yn ôl deiliad y drwydded, gwnaed profion ar y gwaddodion o'r orsaf niwclear a barnwyd nad yw'n creu unrhyw fygythiad i fodau dynol ac nad yw wedi'i gategoreiddio'n ymbelydrol o dan gyfraith y DU, ond ceir pryderon nad oedd y fethodoleg ar gyfer y profion yn ddigon cadarn. Edrych ar y metr uchaf o waddodion yn unig a wnaeth y fethodoleg, ac ar ronynnau gama'n unig. Dengys ymchwil a gynhaliwyd mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w gweld ar ddyfnderau mwy nag 1 metr. Gwyddom hefyd fod yna 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau yn cael eu cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y gwnaed profion amdanynt.
Roedd yr arolygon o'r gwaddodion yn profi am lefelau caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na phrofwyd am y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn peri risg i iechyd dynol? Wrth gwrs eu bod, ond ni wnaed profion am y rhain, na'r 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol mewn deunydd a ollyngir o'r hen orsafoedd niwclear hyn.
Yn yr amgylchiadau hyn, dylem fod yn mabwysiadu'r egwyddor ragofalus. Hyd nes y ceir arolwg diogelwch annibynnol sy'n drylwyr yn wyddonol ar y gwaddodion dylid atal y drwydded. Os yw'r adroddiad yn bendant o'r farn fod y gwaddodion yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, yna gellir ystyried rhoi trwydded. Ond tan hynny, mae perygl y gwnawn niwed difesur i'n hecosystemau, gan fygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd fel Rhosili a Bae'r Tri Chlogwyn.
Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru: mynnwch fwy o brofion, peidiwch â pheryglu ein traethau anhygoel, peidiwch â pheryglu ein bywyd gwyllt, rhowch Gymru yn gyntaf.