6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:10, 23 Mai 2018

Rydw i’n siarad i ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud gan Rhun ap Iorwerth a rhai pobl eraill yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r deisebwyr a hefyd y Pwyllgor Deisebau am adroddiad manwl iawn ar y materion hyn, ac rwy’n cyfeirio hefyd at yr ohebiaeth sydd wedi bod gan y pwyllgor newid hinsawdd i’r Gweinidog ar y materion hyn hefyd.

Rydw i jest eisiau dechrau gyda’r ffaith nad yw’r ddadl yma, er mor bwysig yw hi yn y Cynulliad, yn gallu newid y drwydded yma. Dyma drwydded sydd wedi’i hawdurdodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae hawl gan y Gweinidog i ymyrryd yn y broses yma, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn gwneud yr hyn mae hi’n teimlo sydd yn briodol.

Rydw i eisiau siarad am rywbeth sydd ddim wedi cael ei grybwyll hyd yma, sef y ffaith bod cyn lleied o reolaeth gyda ni dros ein hadnoddau naturiol ni, bod yn rhaid inni dderbyn y mwd yma, y llaid yma, beth bynnag yw e, o ochr arall Afon Hafren, i gael ei roi ym Môr Hafren ar ochr Cymru. Mae’n tanlinellu cyn lleied o rym sydd gyda ni, a dweud y gwir, ac mae deisebwyr wedi gwneud ffafr fawr â’r Cynulliad hyd yn oed jest i danlinellu hynny. Pe byddai hwn yn digwydd ar dir mawr, pe na fyddai hwn yn digwydd yn y môr, byddai gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid yn fanna ddiddordeb mawr yn y pwnc dan sylw, achos mae unrhyw un sydd yn cael gwared ar bridd yn y modd yma yn gorfod talu treth gwarediadau tirlenwi Cymru—treth newydd wedi’i sefydlu o dan yr awdurdod cyllid newydd. Byddai unrhyw beth o ran datblygu ac adeiladu ar y tir yn golygu bod yn rhaid ichi dalu am gael gwared ar wastraff fel hyn. Ac mae’n rhan o egwyddorion sylfaenol cyfraith amgylcheddol sydd gyda ni—y sawl sy’n llygru sydd yn talu. Mae honno’n un ohonyn nhw.

Y ffaith yw ein bod ni’n rhannu cyfrifoldeb dros Fôr Hafren gyda Lloegr, felly mae yna gyfrifoldeb ar y cyd y dylem ni ysgwyddo, wrth gwrs, wrth edrych ar ôl beth sydd yn ardal o gadwraeth arbennig, sydd heb gael ei grybwyll hyd yma yn ogystal. Ac felly, i fi, mae yna egwyddor sylfaenol fan hyn. Pam nad ydym yn ymwneud â’r môr a defnyddio tirlenwi yn y môr, i bob pwrpas, yn yr un modd ag yr ydym yn defnyddio tirlenwi ar y tir mawr? Ac mae yn tanlinellu pa mor ddiffygiol mae’r holl broses wedi bod, bod rhywbeth yn cael ei allanoli i gorff o dan Lywodraeth Cymru—corff a oedd newydd ei sefydlu ar y pryd—heb atebolrwydd democrataidd i’r penderfyniad hwnnw. Yn hynny o beth, rydw i’n ategu’r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud.