Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch. Janet—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad â'r oriel gyhoeddus? Mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych eich bod yn cymryd diddordeb, ond os gwelwch yn dda, ni chewch weiddi. Nid oes ots gennyf eich bod yn curo dwylo, ond ni allwn gael unrhyw weiddi gan fod hynny'n amharu ar ein trafodion. Felly, mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych fod gennych ddiddordeb mawr yn hyn, ond os gwelwch yn dda peidiwch ag amharu ar ein trafodion. Janet Finch-Saunders.