Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 23 Mai 2018.
A fyddech yn derbyn—dywedir wrthyf gan wyddonwyr; nid wyf yn wyddonydd—na fydd rhai mathau o blwtoniwm yn cael eu canfod gan y profion beta? Yn syml iawn, pam na chafodd sbectrometreg alffa ei wneud, a'r sbectrometreg màs plasma, fel yn Kosovo, ar y mwd?