Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 23 Mai 2018.
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru bob amser wedi bod yn genedl sy'n edrych allan, ac wedi'i chysylltu'n rhyngwladol. Mae'n deg dweud bod rhai wedi'i ofni bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â gwrthod y traddodiad balch hwn. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, roedd yr ofnau hyn yn ddi-sail. Er bod Cymru yn gadael yr UE, rydym yn glir nad yw'n gadael Ewrop.
Ddirprwy Lywydd, beth bynnag fydd canlyniad terfynol y trafodaethau rhwng y DU a'r UE, mae'r 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio yn enghraifft o sut y gallwn elwa o'r bartneriaeth gref drwy weithio gyda'n gilydd. Mae ein hadroddiad yn edrych ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol ac yn ailddatgan y farn y dylid ystyried Brexit fel ailgyfluniad o hen berthynas ynghyd â dechrau perthynas newydd.
Gan droi yn awr at yr adroddiad ei hun, bydd yr Aelodau'n gweld ei fod yn gyfraniad helaeth ac awdurdodol i'r ddadl ynglŷn â natur perthynas y genedl hon ag Ewrop yn y dyfodol. Gwn y bydd gan lawer o fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor themâu a materion arbennig y maent am fynd ar eu trywydd yn eu cyfraniadau. Felly rwy'n bwriadu cadw fy sylwadau at rai o'r themâu ehangach yn yr adroddiad.
Rydym yn gwneud cyfanswm o 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â ble y dylai ganolbwyntio ei dylanwad mewn perthynas â safbwynt negodi'r DU, a pherthynas Cymru â'r UE yn y dyfodol ar ôl Brexit. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dderbyn pob un o'r 18 argymhelliad—12 wedi'u derbyn yn uniongyrchol a chwech mewn egwyddor—ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan fydd yn codi i siarad.
Mae ein set gyntaf o safbwyntiau ac argymhellion yn edrych ar fynediad at y farchnad sengl a threfniadau ar gyfer trefniadau tollau'r DU yn y dyfodol. Beth bynnag fydd yn digwydd yn y Senedd neu Lywodraeth y DU ynglŷn â'r materion hyn, mae ein hadroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom a barn rhanddeiliaid yng Nghymru. Cafwyd ymdeimlad clir o'r dystiolaeth fod yr agwedd bwysicaf ar y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn ymwneud â masnach. Mae'n hanfodol felly fod y berthynas yn y dyfodol yn darparu masnach ddiffrithiant—ie, diffrithiant—heb rwystrau tariff a di-dariff.
Ymhellach, nodwn yn ein hadroddiad fod y dystiolaeth yn blaenoriaethu'n bendant iawn y dylid cynnal safonau rheoleiddio cyfatebol dros yr ymwahanu rheoleiddiol oddi wrth Ewrop ar ôl Brexit. Clywsom bryderon yn benodol o'r sectorau ffermio, pysgodfeydd a bwyd mewn perthynas â'n cysylltiadau masnachu yn y dyfodol. Gallai'r heriau i'r sectorau hyn drwy osod rhwystrau di-dariff newydd ar ôl Brexit, megis archwiliadau iechyd planhigion ac anifeiliaid, beryglu allforion cig oen, cig eidion, pysgod cregyn o Gymru—rhywbeth rwy'n sicr nad oes neb yma am ei weld.
Gan droi at dollau, nodwn yn ein hadroddiad y gallai trefniant tollau newydd gyda'r UE, sy'n adlewyrchu'r trefniadau presennol yn fras, helpu i leihau'r perygl o oedi oherwydd tollau ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd. Wrth i'r amser fynd heibio, ac wrth i'r angen am frys gynyddu, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion credadwy ar y trefniadau tollau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Mae'n hanfodol fod y mater yn cael ei ddatrys mewn ffordd sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau ar ddwy ochr Môr Iwerddon a dwy ochr y Sianel. Yn anffodus, rydym yn dal i weld Llywodraeth yn San Steffan nad yw'n gallu cytuno ar ffordd ymlaen ar y mater hwn, ac sy'n creu mwy o bryder ymysg rhanddeiliaid Cymru ynglŷn â natur ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.
Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys mewnfudo a rhyddid i symud. Rydym yn cydnabod yn ein hadroddiad fod hwn yn fater pwysig i lawer yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ond nodwyd gennym hefyd y rôl y mae dinasyddion yr UE yn ei chwarae yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn gweithio yn ein busnesau preifat. Rydym yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau cytundeb cynnar ar ddyfodol hawliau dinasyddion gan y tasglu Brexit, Senedd Ewrop a thîm negodi'r DU, ac rydym yn croesawu'r cytundeb cam 1 yn hynny o beth.
Gan edrych ymlaen, rydym am weld eglurder gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni ar gyfer newid i system fewnfudo yn y dyfodol ar y cyfle cyntaf. Yn bersonol, rwy'n gobeithio na welwn hyn yn cael ei ohirio hyd nes y gwneir y penderfyniadau ar y cytundeb terfynol a geir rhwng y DU a'r UE.
Ddirprwy Lywydd, fel rwy'n dweud yn y rhagair i'r adroddiad, ni ellir diystyru'n rhy hawdd y 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio. A thema allweddol yn ein hymchwiliad oedd yr angen i sicrhau cydweithrediad ac ymgysylltiad parhaus â rhai o asiantaethau a rhaglenni'r UE ar ôl Brexit. Credwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru fapio pa asiantaethau Ewropeaidd y mae wedi eu nodi fel rhai pwysig i barhau i gyfranogi ynddynt ar ôl Brexit, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa bryd y cawn fanlion yr ymarfer mapio hwnnw. Rydym hefyd wedi nodi rhai asiantaethau ein hunain, yn enwedig yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a Chanolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, y cafwyd ateb gan Lywodraeth Cymru yn ei gylch yn ei hymateb i'r adroddiad. I'r perwyl hwnnw, mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn ceisio eglurder yn awr pa un a yw'r UE yn barod i gynnig aelodaeth gysylltiol o'r cyrff hyn i'r DU, neu fath o berthynas sy'n gallu bodoli wedyn.
Rydym hefyd yn nodi'r rhan bwysig a gwerthfawr y mae cydweithredu yn y meysydd addysg wedi ei chwarae, yn enwedig drwy'r rhaglen Horizon 2020 ac Erasmus+. Credwn y byddai parhau i gydweithredu yn y meysydd hyn ar ôl Brexit yn fuddiol i Gymru ac i'r UE. Ar ben hynny, rydym yn croesawu'r cyfeiriadau a wnaed at gydweithredu posibl mewn meysydd ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth y DU, Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop—mae pob un yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i hyn yn y trafodaethau.
Y thema olaf yr edrychwyd arni yn yr adroddiad oedd perthynas Cymru yn y dyfodol â rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Nododd llawer o'n rhanddeiliaid bwysigrwydd parhau i fod yn rhan o'r rhwydweithiau hyn ar ôl Brexit. Mewn tystiolaeth, tynnodd rhanddeiliaid ein sylw at y rôl unigryw a gwerthfawr y gall cymryd rhan mewn rhwydweithiau Ewropeaidd ei chynnig o ran gwersi polisi a chydweithredu ar draws yr holl sectorau hynny. Fel pwyllgor, rydym yn falch o'r effaith gadarnhaol yn y ddau gyfeiriad y mae ymgysylltu o'r fath wedi'i chael yn y gorffennol a gobeithiwn weld y cysylltiadau hyn yn tyfu o nerth i nerth yn y dyfodol.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y gallai fod gan Gymru lai o ran yn llawer o'r rhwydweithiau hyn yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym am ei weld ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r gymdeithas sifil ehangach, yn rhoi camau ar waith i liniaru risg y lleihad hwn lle y bo'n bosibl yn y dyfodol. Yn ein hadroddiad, clywsom am y rôl bwysig a bennwyd yn natganiad Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Caerdydd i ddatblygu perthynas nid yn unig drwy rwydweithiau ond yn uniongyrchol â gwledydd, rhanbarthau a dinasoedd unigol yn Ewrop. Rydym yn llwyr gydnabod y rôl bwysig y bydd y cysylltiadau hyn yn eu chwarae yn y dyfodol ac yn gobeithio archwilio'r mater ymhellach wrth inni gychwyn ar ail ran ein gwaith.
Pan fyddwn yn edrych tua'r dyfodol, ni allwn anwybyddu perthynas Cymru â'n cymydog agosaf yn yr UE, sef Iwerddon. Ar ôl ystyried effaith Brexit ar fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod ein hadroddiad ar borthladdoedd, roeddem hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas hon, gan alw yn yr adroddiad hwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn parhau i gryfhau a datblygu'r berthynas honno ar ôl Brexit.
Mae hefyd yn bwysig i ni fel pwyllgor fod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu mewn unrhyw berthynas yn y dyfodol. I'r perwyl hwnnw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau hyn wrth inni adael yr UE. Rwy'n falch o nodi bod Tŷ'r Arglwyddi wedi cytuno i welliant i'r Bil ymadael â'r UE i geisio ymgorffori siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU. Rwy'n gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn derbyn y gwelliant hwnnw.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym un neges gyffredinol i'n ffrindiau a'n partneriaid ar draws Ewrop: mae gan Gymru draddodiad balch fel cenedl sy'n edrych allan i'r byd, a nod ein hadroddiad yw bod yn gyfraniad defnyddiol i'r trafodaethau sy'n dechrau o ddifrif ar ein perthynas yn y dyfodol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru, cymdeithas sifil a ni fel Cynulliad Cenedlaethol adeiladu'r cysylltiadau hyn a meithrin y berthynas hon yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw maes o law. Diolch yn fawr.