Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 23 Mai 2018.
Credaf ei bod yn glod i'r pwyllgor materion allanol, er gwaethaf y teimladau cryf iawn ar y materion dan sylw mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ei fod yn gyson yn cynhyrchu adroddiadau teg, cytbwys ac awdurdodol. Hoffwn ganmol, yn arbennig, David Rees am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor hwn a'r ffordd y mae wedi cyfeirio ei waith. Rwy'n cytuno'n arbennig gyda'r pwynt a wnaeth ar ddechrau ei araith y prynhawn yma, fod Cymru'n gadael yr UE ond nid yw'n gadael Ewrop. Ar yr ochr hon i'r ddadl, rydym yn aml yn cael ein disgrifio fel Little Englanders, neu Little Wales-ers neu beth bynnag ac yn tueddu i fod â rhyw fath o feddylfryd y gwersyll, ac yn canolbwyntio'n llwyr ar Brydain, ond wrth gwrs mae Brexit yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y byd ehangach yn ogystal ag ar gynnal ein cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Un o'r problemau sydd gennym, rwy'n credu, wrth gynhyrchu adroddiadau fel hyn yw bod y dystiolaeth a ddaw i law, a siarad yn gyffredinol, yn tueddu i fod ynghylch buddiannau cynhyrchwyr, ac mae buddiannau cynhyrchwyr yn gyffredinol yn tueddu i ffafrio'r status quo oherwydd eu bod yn ymdrin, wrth gwrs, â'r hyn y maent yn ei wybod a'r hyn y maent wedi'i brofi ac maent am barhau â hynny er mwyn parhau â'r drefn y maent yn gweithredu oddi tani ar hyn o bryd. Mae'r dyfodol yn anhysbys, mae'n ansicr—er y gallai fod cyfleoedd gwell o dan gyfundrefn wahanol—ond nid yw'r rheini'n hysbys ar hyn o bryd ac felly mae rhywfaint o ddyfalu ynghlwm wrth hynny. Ond yn bersonol credaf nad oes gan Gymru ddim i'w ofni hyd yn oed o sefyllfa 'dim bargen', pe bai'r negodiadau presennol yn arwain at hynny. Rwy'n meddwl bod Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn anodd iawn i gael y fargen orau i Brydain yn sgil ei sylw diddiwedd i'r syniad o ryw fath o undeb tollau. Mae hynny'n chwarae'n syth i mewn i ddwylo'r UE, oherwydd os yw'r UE yn credu ein bod yn awyddus iawn i gynnal sefydliadau presennol a ffyrdd presennol o fasnachu â'n gilydd, nid oes ganddynt unrhyw gymhelliant o gwbl i ymrwymo i fath gwahanol o berthynas fasnachu, a fyddai'n well i ni ar bob sail.
Mae polisi yr UE o negodi dilyniant, fel y'i disgrifiwyd gan Yanis Varoufakis, Gweinidog cyllid Gwlad Groeg gyda phrofiad enfawr o ymdrin â Chomisiwn yr UE ynglŷn â'r ateb a geisiwyd i broblemau dyledion Gwlad Groeg—. Nododd y perygl o beidio ag ystyried y berthynas fasnachu yn y dyfodol ar yr un pryd â'r holl agweddau eraill ar ein perthynas â'r UE a'r angen i'w negodi. Mae hynny wedi cynyddu'r ansicrwydd a achoswyd ac nid yw'n ddim mwy na pharhad o ymgyrch prosiect ofn a welsom drwy gydol ymgyrch y refferendwm ac sy'n dal i fod yn amlwg iawn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni beidio â gorliwio manteision undeb tollau. Credaf y dylem gadw mewn persbectif beth yn union yw natur y fasnach a wnawn gyda'r UE. Os na fyddai gennym gytundeb masnach, faint o anhawster y byddai cwmnïau o Gymru yn ei gael i werthu i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd? Rydym yn dechrau, wrth gwrs, o sefyllfa lle rydym nid yn unig yn cyd-fynd yn rheoleiddiol â'r UE, ond o dan yr un gyfundrefn mewn gwirionedd. Felly, yn y dyfodol, os oes unrhyw wyro rheoleiddiol yn mynd i fod, mae hwnnw'n fater ar wahân a gaiff ei drafod, gyda'i holl fanteision ac anfanteision, ar yr adeg honno.
Ond o ran cyfundrefn dariffau'r UE, credaf ei bod hi'n bwysig nodi, pe na baem yn gallu ymrwymo i gytundeb masnach rydd â'r UE, y byddai'r tariffau a fyddai'n berthnasol i gynhyrchwyr Cymru yn gyffredinol yn fach iawn. Mae amaethyddiaeth yn fater cwbl wahanol, ond yn achos nwyddau a weithgynhyrchir yn benodol, mae'r rhain yn fach iawn. Mae'r ddogfen a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Y Polisi Masnach: Materion Cymru' yn eglur iawn ar hyn. Os edrychwn yn Atodiad A ar dudalen 23 y ddogfen hon, y meysydd masnach sydd o fwyaf o ddiddordeb a phwysigrwydd i Gymru yw pethau fel nwyddau trydanol a thelathrebu, cynhyrchion amrywiol a weithgynhyrchir, cynhyrchion metel sylfaenol amrywiol, cynhyrchion cemegol amrywiol. Mae gan bob un o'r rhain dariffau posibl o lai na 5 y cant. Mae cerbydau yn achos gwahanol eto. Yn gyffredinol mae'r maes hwnnw oddeutu 10 y cant, ond rhaid inni gofio, os byddwn yn ddarostyngedig i dariffau ar ein hallforion i'r UE, maent hwythau wrth gwrs yn ddarostyngedig i'r gwrthwyneb, a chan fod gennym ddiffyg masnach sylweddol yn y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, hwy a fyddai'n waeth eu byd yn y pen draw. Pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, byddai'r incwm tariff i'r Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd rywbeth yn debyg i £13 biliwn y flwyddyn, ond ni fyddai'r incwm tariff i'r UE ond yn £5 biliwn y flwyddyn. Felly, byddem yn llawer iawn gwell ein byd.
Nid oes neb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin am weld rhwystrau masnach neu rwystrau tariff rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a byddai inni barhau i fasnachu mor ddiffrithiant â phosibl o fudd i bawb, ond yr UE piau'r cam nesaf. Hwy sy'n gosod y rhwystrau ac yn creu'r anawsterau rhag llunio cytundeb synhwyrol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod parhad ymgyrch prosiect ofn yn ei gwneud yn llawer anos i gael y synnwyr cyffredin y mae pawb sy'n pryderu am fuddiannau Cymru am ei weld.