Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Efallai y caf ymdrin â'i ymatebion ef yn gyntaf. Rwy'n falch iawn ei fod yn y bôn wedi cefnogi popeth a ddywedwn yn yr adroddiad ac yn cydnabod bod yr hyn rydym yn ei ddweud yn faterion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â hwy fel cenedl, yma yng Nghymru ond hefyd yn y DU yn ogystal.
Rwy'n cytuno gyda'r pwynt am egwyddorion. Rwy'n deall y manylion technegol na wyddys amdanynt a allai godi oherwydd bod cymaint o ansicrwydd yn dal i fodoli hyd nes y byddwn yn gwybod mwy o fanylion am gytundeb terfynol. Rwy'n derbyn hynny, ond mae'n dal i fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd ar ôl y rheini wrth inni fynd ar drywydd cytundeb terfynol sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddem am i chi ei wneud i ni, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r gronfa bontio Ewropeaidd a ddisgrifiwyd gennych a'r lwfans o arian ar gyfer y sefydliadau y soniodd Jane Hutt amdanynt i ganiatáu'r ymgysylltiad hwnnw ag Ewrop yn y dyfodol. Mae hynny'n hanfodol oherwydd bod cynifer o sefydliadau wedi agor y cysylltiadau hynny, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn parhau gyda'r rheini ac yn elwa ohonynt yn y dyfodol. Mae'n bwysig iawn ar gyfer hynny.
Fe af ymlaen at rai o'r Aelodau, ac rwyf am ymdrin â chyfraniad Jane yn gyntaf am mai dyna'r hawsaf. Tynnodd Jane ein sylw'n glir at golli'r ffrydiau ariannu, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn rhoi rhyw gysur inni wybod bod cyfleoedd yno i hynny ddod drwodd. Ond mae ar gyfer y darlun yn y tymor hwy, oherwydd nid yw hwnnw, fel y gwyddom, yn ddim ond cronfa bontio ac nid o reidrwydd yn hirdymor, felly mae angen inni edrych ar hynny. Ac nid ydym eto'n gwybod beth y mae'r DU yn mynd i wneud ynglŷn â sicrhau arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd ac i ganiatáu'r math hwnnw o ymgysylltiad. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n dal i fod gennym, ac mae'n bwysig. Gwn y bydd Jane yn parhau i dynnu sylw at yr agenda cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn ehangach, i sicrhau nad ydym yn colli'r hyn enillwyd o dan yr UE.
Dai Lloyd—a gaf fi dynnu sylw at y ffaith bod Steffan wedi cael effaith enfawr ar ein pwyllgor, a gwn am ei frwdfrydedd ynghylch edrych ar berthynas Cymru nid yn unig â'r UE ond â'r byd yn ehangach yn ogystal, ac edrychaf ymlaen at ei gael yn ôl cyn gynted â phosibl i'r pwyllgor? A gaf fi eich cywiro? Fe ddywedoch chi mewn gwirionedd mai argymhellion 1 a 4 oedd aelodaeth lawn o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Na, nid dyna roeddent yn ei ddweud; yr hyn roeddent yn ei ddweud, yn y bôn, oedd ein bod eisiau trefniant tollau a fyddai'n caniatáu inni gael cytundebau tebyg, a lle byddai gennym, unwaith eto, fynediad dirwystr i'r farchnad. Felly, nid yw'n hollol yr un fath â'r derminoleg a ddefnyddioch chi. Roeddwn am wneud hynny'n glir. Ar y materion a godwyd gennych, mae angen inni sicrhau bod gennym raglenni cydweithredol. Mae rhaglen fframwaith 9, sy'n un o'r rhaglenni i ddilyn Horizon 2020—mae angen defnyddio'r arian hwnnw yng Nghymru; mae angen inni gael mynediad ato, mae angen i'n prifysgolion allu cael mynediad ato ac mae angen i'n diwydiannau ymchwil gael mynediad ato, felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i ymchwilio i hynny. Ac er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am faterion y DU, mae'n dal i fod yn bwysig i Gymru edrych ar bob cyfle a gawn i gymryd rhan mewn rhaglen o'r fath.
Neil Hamilton, a gaf fi ddiolch i chi am eich geiriau caredig yn gyntaf oll? Gallai fod y peth caredicaf y byddaf yn ei ddweud heddiw. Ond rydych yn gywir; rhoddir buddiannau cynhyrchwyr yn dystiolaeth ac maent yn pryderu ynglŷn â newid, oherwydd eu bod yn poeni am eu proffidioldeb, maent yn poeni am eu dyfodol, maent yn pryderu am fywoliaeth eu gweithwyr. Mae yna faterion sy'n eu poeni pan na fyddant yn gwybod beth sy'n digwydd—dealladwy. Felly, mae hynny'n bwysig. Ni allwn guddio hynny. Nid wyf yn credu mai prosiect ofn yw hynny; realiti'n unig yw hynny. I ble'r ydym yn mynd? Beth sy'n digwydd? Credaf mai dyna'r broblem. Rydych yn dweud nad ydynt yn meddwl gormod am drefniadau tollau. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae busnesau'n dweud y gwrthwyneb yn llwyr wrthym. Maent eisiau gwybod am drefniadau tollau, maent eisiau gwybod am y tariffau ac maent eisiau gwybod am y rhwystrau di-dariff. Mae angen iddynt wybod ble maent yn mynd.
Roeddem yn siarad ddydd Llun yn ein pwyllgor ac roedd pobl yn dweud nad yw ffermwyr yn arbennig yn sôn ynglŷn â beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf; maent yn siarad am beth sy'n digwydd mewn pum neu chwe blynedd, ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynllunio, sut y byddant yn arallgyfeirio eu trefniadau, eu busnesau, mewn pum neu chwe blynedd—mae angen iddynt ei wneud yn awr. Felly, mae'r ansicrwydd hwnnw'n broblem iddynt. Rydych yn dweud nad oes unrhyw un eisiau rhwystrau—rwy'n cytuno'n llwyr—ac mai'r UE piau'r cam nesaf ar hynny. A gaf fi atgoffa pawb yn y Siambr hon fod yr UE yn fwy pryderus, ar hyn o bryd, ynglŷn â'r fframwaith ariannol amlflwydd a'r cyfnod nesaf o saith mlynedd nag y maent ynghylch Brexit? Maent yn edrych ar eu cyllidebau y gwyddant eu bod yn gyfyngedig heb arian y DU, ac maent yn bryderus iawn am hynny. Gyda Brexit, mae'n debyg ein bod wedi mynd i lawr y rhestr yn ddramatig yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, gallech ddweud mai mater i'r UE ydyw, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn poeni amdanom ni; mae ganddynt broblemau eraill y maent yn mynd i'r afael â hwy, ac mae angen iddynt edrych ar hynny. Rwyf bob amser yn ceisio cynhyrchu adroddiadau cytbwys yn ogystal.
Pwysleisiodd Mark y tollau, fel y byddech yn disgwyl iddo wneud, ac ateb arbennig sy'n addas ar gyfer y DU. Rwy'n deall hynny. Soniodd am lorïau a thechnoleg rhwng UDA a Chanada. A gaf fi nodi, a'i atgoffa o'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw yn y pwyllgor Brexit yn San Steffan? Bydd yr ateb 'max fac' sy'n cael ei argymell gan Lywodraeth y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn i fusnesau ac yn cymryd pum mlynedd i weithio'n llawn mae'n debyg. Dyna'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw. Felly, nid yw'r syniad hwn y gallwn gael ateb technolegol yfory yn realistig, ac nid fi sy'n dweud hynny, nid y byd busnes, ond yr unigolyn sy'n siarad am ei gasglu mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]