8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Dechrau'n Deg: Allgymorth'

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:20, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Yn 2014, cyflwynwyd trefniadau allgymorth mewn ymateb i bryderon fod seilio hawl i wasanaeth ar god post teulu yn arwain at allgáu llawer o'r plant a oedd fwyaf o angen cymorth. Crëwyd elfen allgymorth y rhaglen i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu pedair elfen graidd Dechrau'n Deg i ganran fach o'u poblogaeth sy'n byw y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg.

Dewisom gynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfen allgymorth Dechrau'n Deg y llynedd oherwydd bod ymatebwyr i'n hymgynghoriad 2016 ar 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er eu bod yn cefnogi nodau Dechrau'n Deg, roeddent yn pryderu bod targedu'r rhaglen yn ddaearyddol mewn perygl o greu rhagor o anghydraddoldeb, drwy eithrio nifer sylweddol o blant a oedd yn byw mewn tlodi. O ystyried hyn, cytunwyd y dylem glywed tystiolaeth ynghylch pa mor effeithiol yw'r gwaith allgymorth presennol ac a ddylid datblygu'r rhaglen i ymestyn ei chyrhaeddiad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd dystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i'r gwaith pwysig hwn, a chydnabod gwaith caled yr holl staff ymroddedig sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Cymru.

Felly, i droi at fanylion ein hadroddiad, roeddem am sefydlu i ba raddau roedd awdurdodau lleol yn defnyddio'r opsiwn allgymorth i gefnogi plant y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg a fyddai'n elwa ar ei wasanaethau. Er inni ganfod bod awdurdodau lleol yn gwneud defnydd o'r hyblygrwydd hwn i gyrraedd plant y tu allan i'r ardaloedd, siom oedd darganfod pa mor gyfyngedig oedd y capasiti. Dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod cyn lleied â phump o blant yn cael y gwasanaethau allgymorth hyn mewn rhai siroedd oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Roeddem yn falch fod y sylw a roesom i gapasiti allgymorth cyfyngedig wedi arwain at gynnydd yn yr hyblygrwydd i ddyrannu cyllid i wasanaethau allgymorth. Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Leol yn cael gwario hyd at £2.84 miliwn yn ychwanegol ar allgymorth ar unwaith, sy'n cyfateb i 5 y cant o gyllideb flynyddol Dechrau'n Deg. Serch hynny, fel pwyllgor, rydym yn dal i fod heb ein hargyhoeddi bod hyblygrwydd o 5 y cant yn ddigon. Gyda mwyafrif y plant sy'n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd diffinedig Dechrau'n Deg, argymhellwyd y dylai'r Gweinidog ystyried ymestyn hyblygrwydd ariannu allgymorth y tu hwnt i 5 y cant i ganiatáu i'r rhaglen gyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i hangen.

Rydym yn croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i'n hadroddiad y bydd yn archwilio goblygiadau llawn hyblygrwydd cyllido pellach gydag awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â rhaglenni daearyddol, yn enwedig llai o stigma, mwy o gymdeithasoli a chreu ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn fater o bryder i ni fod bron i ddwy ran o dair o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn byw y tu allan i ardaloedd daearyddol a ddiffinnir fel rhai difreintiedig. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu rhagor o fanylion gan y Gweinidog ar natur y gwaith a wneir i asesu addasrwydd y cap o 5 y cant cyn y gyllideb ddrafft nesaf. Buaswn hefyd yn croesawu mwy o wybodaeth am yr ystyriaeth y mae'n ei rhoi i hawliau'r plant nad ydynt yn gallu manteisio ar Dechrau'n Deg na'r cynnig gofal plant os ydynt yn byw y tu allan i'r ardal cod post berthnasol a chanddynt rieni nad ydynt yn gweithio.

Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod craffu da yn golygu nid yn unig ystyried faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer darn o waith, ond pa effaith a gaiff yr adnodd hwnnw pan fydd yn weithredol. I'r perwyl hwnnw, buom yn ystyried y gwaith a wnaed i asesu effaith y £600 miliwn a fuddsoddwyd yn Dechrau'n Deg ers 2007. Gellir crynhoi'r hyn a welsom mewn tri phwynt allweddol. Yn gyntaf, cafodd Dechrau'n Deg ei werthuso'n helaeth, ond nid yn benodol yng nghyswllt yr elfen allgymorth. Yn ail, ceir diffyg data ynglŷn â niferoedd y rhai sy'n manteisio ar bob un o'r gwasanaethau o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Yn drydydd, nid yw'n hawdd mesur natur y canlyniadau a ddisgwylir o raglen fel Dechrau'n Deg. Wrth eu natur, maent yn ymwneud â'r tymor hwy ac yn anodd eu gwahanu oddi wrth y gwasanaethau a'r cymorth arall a ddarperir.

Mae'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod angen gwneud rhagor i ddangos manteision y rhaglen. Er ein bod yn cydnabod gwybodaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid am y cynnydd a wnaed gan blant sydd wedi cael cymorth Dechrau'n Deg, a'r ffaith bod y rhaglen yn cael ei gwerthfawrogi gan y rhai sy'n gallu cael mynediad ati, mae llawer o werthusiadau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd darparu tystiolaeth empirig o effaith. Gyda chymaint o fuddsoddiad wedi'i wneud yn Dechrau'n Deg, rydym yn awyddus i weld tystiolaeth glir o'i effaith. Er ein bod yn croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddangos y gwelliannau uniongyrchol y mae Dechrau'n Deg yn eu gwneud, rydym yn awyddus i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei fonitro'n agos. Credwn fod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y swm mawr o arian a fuddsoddir yn hyn bob blwyddyn, gydag ychydig o dan £80 miliwn wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon yn unig.

Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi gofyn i awdurdodau lleol ddatblygu a chasglu set gyson o ddata ynglŷn â phlant Dechrau'n Deg fel rhan o gynllun peilot. At hynny, rydym yn falch y bydd y cynllun peilot hwn yn cynnwys casglu data ynglŷn ag a yw plant yn cael cymorth drwy wasanaethau allgymorth Dechrau'n Deg neu o fewn ardal cod post. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein cais am ddiweddariadau rheolaidd ar y data a'r gwaith ar gryfhau gwerthusiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gresynu at y ffaith bod argymhelliad 6 wedi'i wrthod, ac yn dal i bryderu na chesglir data ar allgymorth ar lefel Cymru gyfan. Rydym yn credu bod angen rhoi sylw i hyn os yw gwerth am arian ac effaith i gael eu hasesu'n gynhwysfawr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried hyn.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r diweddariad y gofynnwyd amdano yn argymhelliad 7. Credwn ei fod yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae wedi monitro ac adolygu effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen Dechrau'n Deg, cyrhaeddiad elfen allgymorth y gwasanaethau hynny, ac argaeledd staff i gynnal y rhaglen. Mae'r olaf o'r pwyntiau hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth a gawsom am anawsterau recriwtio ymwelwyr iechyd i'r cynllun Dechrau'n Deg. Dywedwyd wrthym fod hyn yn arbennig o ddifrifol oherwydd bod contractau Dechrau'n Deg sy'n seiliedig ar grantiau—a byrdymor o'r herwydd—yn ei chael hi'n anodd cystadlu â'r contractau mwy sefydlog a gynigir gan raglenni megis Cychwyn Iach Cymru.

Fel gyda nifer o ymchwiliadau eraill a gynhaliwyd gennym yn ystod y Cynulliad hwn, rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd at ein canfyddiadau cyn yr etholiad nesaf. Yn ein hadroddiad, rydym yn ymrwymo i ailystyried ein hymchwiliad ymhen y flwyddyn. Ein nod wrth wneud y gwaith dilynol hwn yw: ystyried y prosesau gwerthuso a chasglu data sy'n deillio o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn; asesu a yw'r diwygiadau diweddar i ddyraniad cyllid allgymorth yn cael eu defnyddio, lle maent yn cael eu defnyddio, ac a ydynt yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau rheng flaen a'u cyrhaeddiad; ystyried a yw'r rhaglen fel y'i strwythurwyd ar hyn o bryd yn dal yn briodol o ran y dyraniad cyllid cyffredinol, y gwasanaethau a ddarperir a'r meini prawf ar gyfer hawliau; ac ystyried y rhagolygon ar gyfer recriwtio ymwelwyr iechyd, o gofio'r pryderon ynglŷn â chapasiti.

Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog a'r Aelodau eraill ar y pwnc pwysig hwn, a hoffwn gloi fy sylwadau agoriadol drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu cyfraniad i'r ymchwiliad hwn a'u hymrwymiad i wneud gwaith dilynol ar weithrediad ein hargymhellion. Diolch.